Yn yr oedfa sefydlwyd dau weinidog i wasanaethu chwe eglwys Gymraeg Cylch Llanidloes:- Heol China, Llanidloes; Llangurig; Manledd, Y Fan; Llawryglyn; Y Graig, Penfforddlas; Bont, Llanbrynmair.
Wedi ymddeoliad Y Parch. John Pinion Jones penderfynwyd creu un ofalaeth yn Nyffryn Hafren yn cynnwys gofalaethau Y Parch. Edwin Owen Hughes a'r Parch. Jenny Garrard a'r chwe eglwys a enwyd, cyfanswm o bymtheg o eglwysi.
Hefyd ymunodd Eglwys Aberbechan, o Henaduriaeth Montgomery and Shropshire 芒'r ofalaeth newydd a hynny yn golygu fod wyth eglwys Saesneg ac wyth eglwys Gymraeg dan ofal y ddau weinidog.
Hefyd, mae Capel yr Annibynwyr, y Capel Coffa, yn addoli gyda Bethel yn Y Drenewydd bob Sul, yn ogystal a Chapel yr Annibynwyr, Creigfryn a Pheniel yng Ngharno.
Y bwriad yw y bydd y ddau weinidog yn gweithio fel t卯m, gyda Jenny yn ychwanegu pregethu ar y Sul, gan amlaf, ym Manledd a Llangurig at ei heglwysi presennol ac Edwin yn ychwanegu'r gweddill.
Bydd y ddau yn rhannu'r gofal bugeiliol rhyngddynt fel bo'r galw.
Golyga yr ehangu hwn y bydd mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau'r blaenoriaid, a byddent hwythau'n rhan hanfodol o'r t卯m, fel, yn wir, y bydd yr holl aelodau.
Mae'n fenter gyffrous, ac edrychwn ymlaen i'r dyfodol yn hyderus yng Ngofalaeth Hafren.
Bu'r oedfa'n oedfa hyfryd dan lywyddiaeth Cyn-lywydd Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf a blaenor yn Heol China, Mr. Hefin Bennett.
Cymerwyd rhan hefyd gan Mrs. Ann Griffiths, Mrs. Bethan Lloyd Owen, Y Parch. Nerys Tudor a'r Parch. Emrys Wyn Evans.
Mr. Bryn Davies oedd wrth yr organ ac ef estynnodd groeso i'r ddau weinidog ar ran y chwe eglwys.
Traddodwyd y Siars gan y cyn-weinidog, Y Parch. John Pinion Jones. Paratowyd paned yn y festri i bawb ar 么l yr oedfa.