大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Iolo Williams Blwyddyn Iolo
Chwefror 2004
Bron bob bore Sadwrn, gellir gwrando ar lais lolo Williams ar y radio yn trin a thrafod gwahanol agweddau ar fyd natur gan gyfeirio yn aml at ryfeddodau Dyffryn Hafren.

Mae'n amlwg ei fod wrth ei fodd yn crwydro a gwmpas Y Drenewydd a'r cyffiniau ac yn gweld pethau gyda llygaid naturiaethwr, pethau sy'n ddirgelwch i'r gweddill ohonom nes i rywun fel y fo ddatgelu'r cyfrinachau i ni.

A dyna'r union beth mae e wedi ei wneud yn ei lyfr "Blwyddyn lolo" - tynnu ein sylw at yr holl fywyd gwyllt rhyfeddol sydd wrth ein traed ond i ni gael y llygaid i'w weld. Ac mae e wedi llwyddo i agor llygaid a chreu chwilfrydedd o'r newydd i chwilota ac i sylwi'n fanylach ar yr hyn sydd o'n cwmpas bob dydd.

Mae'r llyfr yn llawn o wybodaeth diddorol, fel y darn hwn allan o'r bennod ar fis Chwefror, "Fel hogyn bach, roeddwn i wastad yn edrych ymlaen i weld cynffonau 诺yn bach ar y coed cyll. Rhain ydy'r darnau gwrywaidd o'r planhigyn sy'n cynhyrchu'r paill, ac maent yn hongian i lawr fel bod y gwynt yn cael mynd arnynt yn haws.

"Ond faint ohonoch chi sydd wedi edrych yn fanwl ar y goeden i geisio cael golwg ar y blodyn bach coch benywaidd? Mae'n eithaf amlwg, dim ond ichi chwilio amdano, ond wyddwn i ddim byd amdano tan yn eithaf diweddar. Unwaith y bydd y paill wedi ffrwythloni'r blodyn, mae'n cynhyrchu'r gneuen sydd - os caiff lonydd - yn creu coeden newydd".

Mae e'n hawdd i'w ddarllen ac yn cynnwys st么r o wybodaeth, petai dim ond yr holl enwau Cymraeg ar adar ac anifeiliaid a blodau gwyllt. Does dim angen bod yn arbenigwr ar fyd natur i'w fwynhau. Mae e'n lyfr i bawb.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy