大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Tu allan i Soar y Mynydd. Llun: Mrs Jennifer Cairns, Llangybi Pererindod Gofalaeth Hafren
Tachwedd 2007
Aelodau a ffrindiau Capel Bethel Y Drenewydd ar bererindod i gapel Soar y Mynydd.

Tair blynedd yn 么l ar ddydd Sul braf, aeth aelodau a ffrindiau Capel Bethel, Y Drenewydd ar bererindod i Soar y Mynydd. Tra roeddem yno, gwahoddwyd ein Gweinidog, y Parchedig Edwin Hughes i ddod yn 么l i Soar y Mynydd dydd Sul, Medi 30ain, 2007. Ymddangosai'n amser hir i aros ond wir, carlamodd yr amser, tyfodd yr ofalaeth ac aeth dros hanner cant o gefnogwyr i'r capel bach i wrando ar bregeth y Parchedig Edwin Hughes.

Cychwynnwyd o'r Drenewydd am hanner awr wedi naw y bore gan godi pobl i fyny bob cam i Langurig. Pawb 芒'i bicnic yn ei law a doedd dim angen ymbarel na chot law. Cafwyd siwrnai gyfforddus gyda dwy stop gysur a Mr Jarvis yn ein llywio'n ofalus ar hyd y ffyrdd culion. Bwytawyd y picnics ac i'r capel ni 芒 oedd yn orlawn erbyn dau o'r gloch. Cafwyd pregeth rymus a phwrpasol gan Mr Hughes ac roedd y canu cynulleidfaol yn hyfryd.

Wedi cymdeithasu a sgwrsio tu allan i'r capel , ymlaen 芒 ni i Aberystwyth a swper blasus yn Llety Parc. Ymddangosodd y paragraff yma yn rhifyn Ceredigion o'r Cambrian News yn ddiweddar.

Cawsom oedfa fendithiol iawn y Sul diwethaf o dan ofal y Parch Edwin O Hughes, Y Drenewydd. Roedd y capel yn llawn gyda bws o aelodau wedi dod gyda'r cennad o wahanol eglwysi o dan ei ofalaeth a llawer eraill o bell ac agos. Croesawodd John Jones, Nantllwyd y cennad a phawb oedd yn bresennol. Chwaraewyd yr allweddellau gan Sally Rees, Llanddewi Brefi. Disgwylir Delyth Morgans, Bwlchyllan i wasanaethu y Sul nesaf. Bydd y Parchedig Edwin Hughes ar ei ffordd i Soar y Mynydd eto gan iddo gael gwahoddiad i fynd yno i wasanaethu yn 2010.

Roedd pererindod yr ofalaeth newydd yn fwynhad pur ac edrychwn ymlaen i fynd unwaith eto.

  • Pererindod pobl Cwmdu i Soar y Mynydd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy