大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Rhai o'r cymeriadau "Ann" yn Theatr Hafren
Rhagfyr 2003
Pleser o'r mwyaf oedd gweld Theatr Hafren "dan ei sang" i'r tri perfformiad o "Ann!" gan Gwmni Theatr Maldwyn dydd Sadwrn a dydd Sul Hydref 25 ar 26.

Er i ni weld y ddrama gerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd awyrgylch cartrefol a chynnes Theatr Hafren yn ychwanegu at angerdd y perfformiad.

Gyda nodau cyntaf y corws - roedd gwallt fy mhen yn pigo ac felly yr un modd bob tro y canent. Er eu bod ar y llwyfan bron drwy'r ddrama, roedd eu symudiadau yn gynnil pan fo raid ac yn fywiog mewn golygfeydd eraill.

Roedd y prif gymeriadau yn rhagorol: Sara Meredydd yn dehongli y gyfriniaeth, ryfedd a berthynai i Ann Griffiths, Barrie Jones a'i lais cadarn yn portreadu John Hughes a Geraint Roberts yn cymryd rhan y Ficer trachwantus.

I mi, pinacl y noson oedd datganiad Edryd Williams fel Thomas Griffiths, gwr Ann, yn canu'r g芒n hyfryd "Aderyn ar fore o Fai" Clasur o g芒n yw hon.

Mae'r tri cyfarwyddwr Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams i'w llongyfarch unwaith eto am sioe fendigedig. a'n bod ni fel ardal yn datgan ein balchder yn eu dawn a'u hymroddiad i Gwmni Theatr Maldwyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy