Eleni yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, rhagorodd Nerys Brown o Garno yng nghystadleuaeth yr Unawd ar gyfer pobl rhwng 19 a 25 mlwydd oed wrth gipio'r wobr gyntaf. Bu un cystadleuydd ar bymtheg yn y rhagbrawf, a methai Nerys goelio mai hi oedd un o'r tri a gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhaliwyd ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Ar gyfer y rownd derfynol, canodd Nerys, 'Nos o Haf' gan Dilys Elwyn Edwards, a dywedodd ei bod yn brofiad gwych canu yn y Ganolfan gan fod acwstig yr adeilad mor braf. Bu'n sioc fawr iddi pan glywodd ei henw yn cael ei gyhoeddi, yn enwedig gan mai hi oedd yr ieuengaf ymhlith y tri a oedd yn y rownd derfynol. Yn sgil ei llwyddiant, enillodd Nerys fedal, Tarian Goffa Dr Haydn Morris ac Ysgoloriaeth Pam Weaver. Yn ogystal, bydd hi'n mynd trwodd i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel a gynhelir yng Nghaernarfon ym mis Medi. Bu Nerys yn dathlu gyda'i chyfeillion yn lleol ac yn Llundain, ymhle mae hi newydd orffen ei blwyddyn gyntaf o'i chwrs Canu yn y Guild Hall. Mae cystadlu mewn eisteddfodau yn gyfarwydd iawn i Nerys. Mae hi wedi ceisio pedair gwaith yn Eisteddfod yr Urdd, ond dyma'r tro cyntaf iddi gyrraedd y llwyfan. Hefyd, daeth yn drydydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng nghystadleuaeth yr Unawd. Ers iddi gyrraedd adref, bu'r ff么n yn eirias gan wahoddiadau niferus iddi hi ganu ledled y wlad, gan gynnwys cyfle iddi ganu yn Eisteddfod Powys eleni. Llongyfarchiadau calonnog i chi, Nerys, a phob dymuniad da yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
|