大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Nelian, Nansi, Mary Price (Llywydd Cenedlaethol) ac Ann Rees Merched Y Drenewydd ar daith
Hydref 2007
Bu tair aelod o gangen Merched y Wawr Y Drenewydd, Ann, Nansi a Nelian ym Mhenwythnos y Mudiad ym Mangor ar Fedi 14, 15 a 16, 2007.

Nelian oedd wrth y llyw ac fe gyrhaeddwyd Bangor mewn da bryd i gofrestru a dod yn gyfarwydd 芒'n ystafelloedd a oedd yn gysurus iawn a phob un gydag en suie - cyfleus iawn.

Roedd y prydau bwyd yn neuaddau John Morris Jones a Rathbone a'r gweithgareddau yn neuadd fawr Pritchard Jones (PJ) a chludwyd ni o le i le a fysiau wennol yn esmwyth a didrafferth iawn drwy'r penwythnos.

Roedd y prydau bwyd yn ardderchog, ymhlith y gorau a gawsom mewn unrhyw benwythnos o'r blaen mi gredaf. Arlwy nos Wener oedd croeso gan y Llywydd Cenedlaethol, Mary Price Machynlleth ac yna croeso i Brifysgol Bangor gan Meri Huws, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Bangor. Adloniant nos Wener oedd Gwyr Evans (Mr Jazz) gr诺p ardderchog a gadwodd y gynulleidfa yn tapio'u traed gydol y perfformiad. I ddiweddu'r noson, o gynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno croesawyd Dafydd Iwan a'r band i'r llwyfan. Os cafodd Dafydd Iwan cystal derbyniad yn Llandudno ac a gafodd o gan Fudiad Merched y Wawr - bydd yn ddyn hapus iawn! Roedd y merched wedi gadael eu seddau ac yn dawnsio yn yr eil ac eraill ar eu traed yn chwifio'u breichiau i rhythm y miwsig. Roedd y neuadd yn fyw! Noson fyth gofiadwy.

Fore Sadwrn roedd detholiad o stondinau yn gwerthu gemau, cardiau ac eitemau coluro gydag arddangosfa colur a dillad yn dilyn. Cawsom sgwrs gartrefol gan yr hynaws Gerallt Pennant wedyn yn s么n am wragedd oedd wedi creu argraff arno.

Roedd gwibdaith i Blas Newydd, Sir F么n, a siop James Pringle neu wibdaith i Landudno i siopa. Aeth merched Y Drenewydd i Landudno wrth gwrs (roed Nelian eisiau prynu dilledyn pwysig iawn yn Marks and Spencer)!

Nos Sadwrn cawsom gyngerdd yng nghwmni C么r Ieuenctid M么n, Elin Manahan Thomas ac Aled Hall. Ar 么l y gwasanaeth fore Sul, mwynhawyd drama "Goriad y Drws" gan Gwmni'r Parc. Thema'r Penwythnos oedd "Rhialtwch y Rhuddem" gan fod y mudiad yn dathlu deugain mlynedd eleni a rhaid dweud fod y cyfan wedi bod yn llwyddiant ysgubol i'r swyddogion fu'n gyfrifol am yr holl drefniadau.

  • Gwefan Y Drenewydd

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy