"Annwyl briod, mam gariadus a nain ofalgar. Gweithwraig serchog, dygn a ffyddlon dros Gymru, ei chyd-ddyn a'i Christ, oll gyda hiwmor byrlymus, doethineb dwfn a chynhesrwydd cynhwysol. Fe welir ei cholli yn aruthrol gan deulu, capel a chymdeithas fel ei gilydd ond fe gofir am ei hymroddiad, ei hwyl a'i charedigrwydd cyson."
Wedi darllen y geiriau yma, beth arall sydd yna i ni ddweud am y wraig arbennig hon? Pan enillodd Fedal Syr Thomas Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989, ymddangosodd yr hanes a ganlyn yn y Seren ar 么l ei gwobrwyo.
Cyflwynwyd y fedal iddi am ei gwaith yn hyrwyddo diwylliant a'r iaith Gymraeg yn ei hardal. Gwyddom i gyd am ei gwaith di-flino ym Maldwyn a rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd.
Ganwyd Margaret Janet Jones (Sioned Penllyn) ym Melin Meloch, y Bala yn 1911. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Y Bala ac Ysgol Sir y Merched, Y Bala cyn mynd i'r Coleg Normal ym Mangor. O'r coleg, penodwyd hi'n brifathrawes Ysgol Capel Celyn. Oddi yno aeth i ddysgu i Rosygwalia.
Cyfarfu a'i diweddar briod, y Parchg, W.E.Jones (ap Gerallt) mewn ffordd ramantus iawn - ar fordaith yr Urdd i Lydaw a Thangiers. Ar 么l priodi, aethant i fyw i'r Barri lle y ganwyd yr efeilliaid, Dwyryd a Tegid. Roedd hyn yn ystod y rhyfel tra'r oedd Caerdydd ac Abertawe yn cael eu bomio'n ddidrugaredd.
O'r Barri, symudodd y teulu i Lanerchymedd a bu Sioned yn brysur iawn gyda Cymdeithas Ddrama M么n gan roi cychwyn i Theatr Fach Llangefni. Symud wedyn i Wrecsam lle y ganed Sioned, Elenid a Maelorwen. Bu Mrs Jones yn brysur yno eto yn rhoi cychwyn i'n Ysgol Gymraeg yn y dref.
I Faldwyn wedyn. I Garno am saith mlynedd cyn symud i'r Drenewydd.
Bu'n hynod o brysur ym mywyd Cymreig y dref am flynyddoedd. Roedd hi'n un o'r rhai a roes gychwyn i'r Cylch Meithrin a'r Uned Gymraeg yn y dref a chadwodd gysylltiad 芒'r ddau am flynyddoedd. Roedd hefyd yn un a aelodau cyntaf Merched y Wawr yn Y Drenewydd a bu'n ysgrifennydd ac yn llywydd Rhanbarth Maldwyn. Braint fawr iddi oedd cael bod yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad o 1974 i 1976. Pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Drenewydd yn 1965, Sioned Penllyn oedd ysgrifennydd Pwyllgor yr Orsedd. Bu'n ddiwyd iawn gyda Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn Y Drenewydd yn 1971 ac anrhydeddwyd hi gan Orsedd Powys drwy'i hurddo yn Dderwydd Gweinyddol am dair blynedd yn nechrau'r saithdegau.
Gwasanaethodd ar Gyngor 大象传媒 Cymru am bum mlynedd ac ar Gyngor Defnyddwyr y Swyddfa Bost a Telecom am bum mlynedd.
Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol a nifer o weithiau ar y Stori Fer a chystadlaethau eraill yn adran lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol
Roedd Capel Coffa Milford Road yn agos iawn at ei chalon a gweithiai'n ddi-flino i sicrhau fod pregethwr yn y capel o Sul i Sul. Os na fyddai pregethwr - yna fe drefnai wasanaeth. A'i o gwmpas yr ardal i gynnal oedfaon hefyd gan bregethu'n raenus ar bob achlysur.
Bu'n ysgrifennu colofn "I'r Cymry" yn y County Times am dros 30 mlynedd ac ymddangosodd ei cholofn olaf , a ysgrifennwyd ar ddiwedd ei bywyd, yn Ysbyty'r Amwythig, yn y County Times heddiw (18/6/04). Hanes Syr Emrys Evans yn dathlu ei ben blwydd yn bedwar ugain oed. Mae'r iaith ar arddull mor ffres ag erioed - tipyn o ddynes!
Mae'n si诺r mai Sioned Penllyn oedd mam Seren Hafren. Roedd hi yno ar yr enedigaeth ac fe'i magodd yn annwyl ar hyd y blynyddoedd. Chlywsom ni erioed mohoni'n dweud ei bod wedi cael llond bol ar y golygu ac er i ni gael aml i anffawd neu amryfusedd - dal ati'n ddi-rwgnach a wnai Sioned.
Pan ymddeolodd o'r papur, roedd hi'n chwith iawn hebddi ar noson cysodi. Roedd hi'n chwith heb y bag mawr du di-waelod hwnnw y deuai rhyw luniau neu erthyglau allan ohono'n gyson.Roedd yn chwith i ni heb y tudalennau di-ri rheiny yn ei llawysgrifen unigryw ei hun - bob un ar gefn rhyw dudalen o ysgrifen ddieithr nad oedd ag unrhyw gysylltiad 芒'r Seren. Oedd, roedd Sioned Penllyn wedi dysgu ail-gylchu cyn bo'r gair wedi dod yn ffasiynol!
Roeddem ni fel t卯m yn faich ohoni; yn lwcus tu hwnt ei bod hi yno. Yno i roi cyngor, i fynegi barn ac i roi o'i doethineb, ei gallu a'i diwylliant. Roedd hi yno i gadw trefn arnom ni er ei bod yn hoff o j么c ac roedd sbarc yn y llygaid bob amser.
Mae ein dyled fel papur bro i Sioned Penllyn, yn enfawr a diolchwn am ei hymroddiad dros y blynyddoedd.
Un o binaclau bywyd Sioned Penllyn mae'n si诺r, oedd gweld sefydlu Ysgol Gymraeg Benodedig yn Y Drenewydd. Hi gafodd y fraint haeddiannol o agor Ysgol Dafydd Llwyd ym mis Medi 2001 ac er ei hoedran teg - fe safodd o flaen y meic gyda medal Syr Thomas Parry-Williams o gwmpas ei gwddf a siaradodd yn huawdl am hanes addysg Gymreig yn Y Drenewydd o'r Cylch Meithrin yn1965 hyd at 2001.
Diolch am bopeth Sioned - roedd hi'n fraint cael eich adnabod.
Bu farw'n dawel ar Fehefin 5ed yn 92 mlwydd oed. Cynhaliwyd dathliad o'i bywyd yng Nghapel y Bedyddwyr, Y Drenewydd, Dydd Sadwrn, 12fed Mehefin gyda'r Parchedig W.J.Edwards yng ngofal y gwasanaeth. Talwyd teyrnged iddi gan y Doctor Glyn Tegal Hughes a chafwyd cyflwyniadau gan y Doctor Gerwyn Williams a Mr Penn Roberts. Traddodwyd y weddi gan y Parchedig Edwin Hughes. Mr Bryn Davies oedd wrth yr organ.
Cludwyd ei gweddillion i wasanaeth preifat yn Llanuwchllyn.
"Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."