大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Yn y saithdegau roedd tri par o efeilliaid yn yr ysgol. Dyma un ohonynt,Sandra a Julie Davies Ysgol Llangurig yn cau
Awst 2008
Alun Phillips sy'n adrodd Hanes Ysgol Llangurig a chaeodd ei drysau am y tro olaf yng Ngorffennaf 2008.

"Y mae'n siwr o fod yn hysbys i'r rhan fwyaf erbyn hyn bod Ysgol Llangurig yn cau ar ddiwedd Tymor yr Haf. Er mwyn rhoi cyfle i'r oll cyn-ddisgybion a ddymunai fynd cynhaliwyd Aduniad yn yr Ysgol a'r tir o'i chwmpas Nos Wener yr unfed -ar-ddeg o Orffennaf.

Yr oedd Mr. Ernie Jones, Mrs. Diane Hand, y Llywodraethwyr ac eraill wedi darparu Arddangosfa ardderchog ac yr oedd fy nghyd-newyddiadurwyr Steve Jones o 大象传媒 Cymru a Tegwyn Roberts, Ffotograffydd o Faldwyn sydd yn awr yn byw ym Mon yn bresennol a buaswn yn barnu yn ol yr holl ffilmio yr oedd Steve yn ei wneud y byddai rhaglen gyfan ar Ysgol Llangurig ar deledu 大象传媒 Cymru cyn bo hir.

Roedwn yno fel priod un o gyn-ddisgyblion yr ysgol . Yr oedd Joan wrth ei bodd. Yr oedd lluniau o'r teulu i gyd yno - beth bynnag dair cenhedlaeth ohonynt. Yr oedd gen i ddiddordeb mawr yn y lluniau ohoni hi a'i dau frawd - David a Michael - yn blant. Gan bod yr Ysgol yn cau yr oedd profiadau fel hyn yn hanfodol i'r cyn-ddisgyblion gan ei fod yn cwblhau'r profiad o fod yn gyn-ddisgybl.

Yn hwyrnosau y Pum Degau yr oedd y diweddar Daniel Davies, Dolgoch, Talerddig wrth ei fodd yn siarad am feirdd a fyddai yn cwrdd yn achlysurol mewn Eisteddfodau ac Ymrysonau o gwmpas yr ardal. Weithiau byddai criw ohonynt yn treulio oriau diri yn eistedd yn y car yn barddoni tan oriau man y bore. Yn ogystal a Ritchie Brown, Glanbidno yr oedd yno wr ifanc oedd yn Brifathro yn Ysgol Llangurig - Gwilym Rhys Roberts oedd ei enw - ac yn ogystal a bod yn Brifathro ac yn fardd yr oedd ganddo glamp o fotobeic - ac yn fwy na hynny yr oedd ef a Mrs. Roberts wedi bod yn yr Eidal ar ei gefn - a'r Gaeaf canlynol daethant i Ysgoldy Talerddig i ddweud yr hanes. Cofiaf amdanynt yn dweud hanes Twr Pisa, Turin, Y Fatican a'r llefydd eraill lle buont ar y Cyfandir.

Yr oedd gennyf ddigon o bobl i gael sgwrs efo nhw - yn berthynasau a bobl sydd wedi tyfu i fod yn gyfeillion dros y blynyddoedd.

Yr oedd yn noson hamddenol iawn.Cafwyd bwffe a arlwywyd gan Lisa a'i "giang" o Gaersws.

Ar ol bwyta canodd Mr. Jones y gloch a bu hynny yn arwydd bod y cyflwyniadau i Mrs Hand, yr athrawes babanod, i Mrs. Dilys Mills - cogyddes yn yr ysgol 42 o flynyddoedd - ac i Mr. Jones ei hunan.

Wedyn tro Tecs oedd hi. Yr oedd wedi dod o hyd i ysgol-risiau yn rhywle. Dringodd i'w phen a dechreuodd roi cyfarwyddiadau i'r dorf lle i sefyll er mwyn i bawb gael tynnu ei lun. Fy swyddogaeth i oedd dal yr ysgol yn llonydd i Tecs. Cyn gynted ac yr oedd wedi gorffen efo'r lluniau digwyddodd dau beth - daeth y gwybed bach allan a dechreuodd fwrw glaw ac yn fuan iawn yr oedd Bariau y "Blue Bell" a'r "Black Lion" yn llawn gyda'r sgyrsiau a'r atgofion melys yn dal i lifo. Dyna pryd mae perthynasau a chyfeillion yn dod yn handi ynte. "

Diolch i Alun Philips am yr erthygl a'r lluniau


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy