Mae dau o gymwynaswyr y Seren wedi ymddeol a mawr fydd y golled ar eu holau. Bu Tegwyn a Gwen yn rhedeg eu siop bapurau, cardiau, fferins, baco a phob mathau o bethau eraill am dros ddeng mlynedd ar hugain ac roedd prysurdeb eu siop yn brawf i'w poblogrwydd yn y dref. Un o'r geiriau cyntaf a ddysgodd fy wyrion bach i pan symudon nhw o Loegr i'r Drenewydd oedd gweiddi o'r pram "Siop Tegwyn, Siop Tegwyn " ac rwyn sicr mai yn y siop y prynai llawer o blant Ysgol Uwchradd Drenewydd eu brecwast! Cymwynas fawr Tegwyn a Gwen i'r Seren oedd ei gwerthu yn ddidal - y gwerthiant yn ddi-dal felly, nid y papur bach! Os oedd y Seren wedi gwerthu allan, buan iawn roedd Gwen ar y ff么n yn galw am ragor.
Roedd Siop Tegwyn yn fan cyfarfod hefyd - bum yn awgrymu i Gwen y byddai'n syniad da rhoi mainc ar ganol y siop er mwyn i'r Cymry gael clonc wrth brynu eu papur!
Roedd siop Tegwyn yn gwerthu papurau, cylchgronau a chardiau Gymraeg a gobeithiaf y bydd y perchnogion newydd, Mr a Mrs Mason yn parhau yn yr un modd ac y bydd yr awyrgylch cymdeithasol yn parhau yn y siop. Diolch yn fawr Tegwyn a Gwen.
|