Ar noson braf cawsom groeso i gartref hanesyddol ac unigryw Nerys ac Emyr Wyn Jones i weld canlyniad (llafur cariad) gwaith manwl, ail - adeiladu dros y degawd diwethaf.
Eu syniad cyntaf oedd dymchwel gweddillion yr hen adeilad a dechrau o'r dechrau, and unwaith iddynt gymryd y waliau "modern" i lawr a darganfod y strwythur o dderw, gwyddent fod rhywbeth arbennig iawn i'w warchod. Buont yn byw mewn carafan ar y safle am dros dair blynedd wrth geisio creu cartref cysurus ac ar yr un pryd cyd-weithio 芒 gofynion amryw o sefydliadau cadwraeth. Cafodd tai fframwaith derw, fel Neuadd Cynhinfa, eu rhagsaernio gan y prif (neu ben) saer. Yna fe godwyd y t欧 lle bynnag 'roedd y perchennog yn dymuno. Gan eu bod yn cael eu dal at ei gilydd gan begiau derw 'roedd yn bosibl i'r t欧 cael eu symud o un lleoliad i un arall - fel rhyw "brefab" canol oesoedd! Amcangyfrifir bod rhannau o'r neuadd wreiddiol (un llawr uchel a thrawstiau agored ac aelwyd ar gyfer gwresogi a choginio) yn mynd yn 么l i 1507 ond, wrth gwrs, fe addaswyd dros y blynyddoedd drwy ychwanegiadau fel y simne fawr (oddeutu 1650), lloriau ac ystafelloedd. Mae Nerys ac Emyr wedi llwyddo i greu campwaith - cartref clyd a manteision y 21ain Ganrif, gyda defnyddiau a chrefftau'r Canol Oesoedd. Fel yn y 16eg a'r 17eg Ganrif croesawant Feirdd cyfoes i Neuadd Cynhinfa a gwelir hefyd Delyn ar yr aelwyd. Mae Nerys ac Emyr yn hael iawn
eu cefnogaeth at Uned Cobalt yn Ysbyty'r Amwythig. Wedi'r ymweliad mynegwyd diolchiadau priodol i Nerys ac Emyr gan John Evans cyn teithio'r ychydig filltiroedd i'r "Tanws" am swper a sgwrs. Croesawodd David Morris, Cadeirydd CYSWLLT, Wyn Richards o Aberhafesb fel gwestai i Fryn Davies; cyhoeddodd mai am 6.30 yh, nos Fercher y 5ed o Orffennaf y byddwn yn cyfarfod nesaf - wrth Dafarn y "Star" yn Nylife i gael ein tywys oddi cwmpas yr ardal ddiddorol hon gan y Prifardd Cyril Jones.
|