´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Y criw Dysgu am Owain Glyndŵr yn Sycharth
Gorffennaf 2007
Daeth nifer dda ynghyd ger Llangedwyn ar noson braf (Mehefin 5, 2007) i ymweld ag olion Sycharth, sef cartref Owain Glyndŵr (1349-1416).

Cawsom gwmni diddorol ac addysgiadol Emyr Evans (Cefn Braich), un a fagwyd yn yr ardal, wrth iddo ein tywys o gwmpas cloddweithiau'r "castell" tomen a beili a dweud hanes y gŵr nodedig a ddaeth i'r amlwg fel arweinydd dylanwadol cenedlaetholdeb Cymreig.

'Roedd Owain Glyndŵr o dras bendefigaidd - yn aelod o linach gogledd Powys a'r Deheubarth; dysgodd Saesneg, astudiodd y gyfraith yn Llundain a daeth yn filwr disglair a theyrngar i frenin Lloegr cyn dychwelyd i Gymru. Daw disgrifiad o Lys Owain Glyndŵr (sef Sycharth) yng ngherddi'r bardd, Iolo Goch.

Ym mis Mehefin 1401 ym Mrwydr Pyllalai carcharwyd Syr Edmwnd Mortimer (Iarll Merswy), un o dri thw pendefigaidd mwyaf pwerus Lloegr, gan Glyndŵr. Ar ddiwrnod olaf Tachwedd 1402 priodwyd Mortimer â Chatrin, merch Owain ac mae'n debyg bod y seremoni, gwledda a'r lletygarwch yn Sycharth heb ei ail.

Llosgwyd Ty Maenorol Sycharth a llawer o dai yr ardal ym mis Mai 1403 gan y Tywysog Hal (Henri V) a symudodd Glyndŵr, ei lys a'i deulu i Gastell Harlech - lle y bu tan 1408.

Ym Machynlleth yn 1404 fe gynylliodd Glyndŵr senedd o bedwar dyn o bob cwmwd yng Nghymru ac fe'i goronwyd yn Dywysog y Gymru Rydd. Cafwyd ail senedd yn 1405 yn Harlech pan gynlluniodd Glyndŵr i rannu Lloegr a Chymru yn dair fel rhan o glymblaid (Glyndŵr, Mortimer ac Iarll Northumberland) yn erbyn brenin Lloegr ond ni wireddwyd y Cynllun oherwydd grym cynyddol byddin y Brenin.

Yn 1408 fe syrthiodd cestyll Harlech ac Aberystwyth, i luoedd y brenin. Lladdwyd Mortimer ac fe garcharwyd teulu Glyndŵr yn y Tŵr yn Llundain ond parhaodd ef a'i fab, Meredudd, i fod yn ddraenen yn ochr y brenin newydd (Henri V) nes rithiodd o lwyfan hanes ym 1415.

Cawsom fap gan Emyr yn dangos lleoliad tebygol y Llynodd pysgod, yr Ardd, y cyndai cŵn a'r pentref lle trigai'r gweision a'r crefftwyr a wasanaethai'r Llys. Mae'n debyg fod y Ffos wedi ei sychu tua diwedd yr 1890'au. Ym 1962 fe wnaethpwyd ymchwiliad archeolegol o'r safle ac o'r pridd fe godwyd rhai arteffactau a ymddangosai'n gysylltiedig â thrigfan a losgwyd ar ben y domen.

Diolchodd Dai Morris i Emyr am roi o'i amser i'n tywys o amgylch safle cartref Owain Glyndŵr a'n haddysgu am y gŵr o Sycharth. Wedi'r ymweliad cawsom swper blasus ym Mwyty'r Orsaf yn Llansantffraid.

  • Mwy am Owain Glyndŵr

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý