Ar 2ail o Fai 2006 croesawyd aelodau o CYSWLLT i Wasg Gregynog gan David Vickers, y Rheolwr brwdfrydig. Esboniodd fod Gwasg Gregynog, a leolir yng nghwrt Gregynog, yn parhau 芒 thraddodiadau ei rhagflaenydd enwog. Daeth The Gregynog Press, a sefydlwyd ym 1922 gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, yn un o Weisg Preifat pwysicaf y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd Robert Maynard, Blair Hughes-Stanton a George Fisher ymhlith y rhai y gosododd eu medrau teipograffyddol, darluniadol a rhwymo llyfrau safonau na welwyd prin mo'u tebyg. Wedi ei hailsefydlu gan Brifysgol Cymru ym 1978 o dan ei theitl Cymraeg, Gwasg Gregynog, mae'r Wasg yn parhau i gynhyrchu llyfrau, printiau ac effemera cain mewn argraffiadau cyfyngedig. Mae crefftwyr sydd wedi bwrw eu prentisiaeth yn cysodi gan ddefnyddio metel poeth, argraffu yn y dull traddodiadol, a rhwymo 芒 llaw; ceir darluniau a gomisiynwyd gan arlunwyr cyfoes blaenllaw; argreffir ar bapurau wedi eu gwneud 芒 llaw ac wedi eu gwneud a mowld, ac mae'r defnydd o ddeunyddiau rhwymo gorau wedi sicrhau lle i'r Wasg yn rheng flaen Gweisg Preifat ein dydd. Fel rheol, mae i'r gweithiau a gyhoeddir diddordeb Cymreig neu Geltaidd ac, er bod y mwyafrif yn y Saesneg, mae rhai teitlau yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, neu maent yn ddwyieithog. Wedi'r cyflwyniad diddorol gan David Vickers cafwyd cyfle i fyseddu tudalennau nifer o'r llyfrau o'r Wasg byd enwog ag sydd wedi ei dylunio, ei argraffu a'i rwymo i'r perwyl o gyfleu i'r darllenydd profiad unigryw. Cawsom weld y peiriannau arbennig, fel gwasg silindr Heidelberg a chastiwr Monoteip, a daethom i werthfawrogi'r gwaith cywrain a gofalus sydd yn seiliedig ar grefftwriaeth glasurol. Diolchodd David Morris i David Vickers am drefnu ymweliad diddorol lawn ac am roi o'i amser prysur i'n hebrwng. Wedyn cafwyd croeso gan Neil a Jackie a swper blasus yn y "Waggon & Horses", Stryd y Gamlas, Y Drenewydd. Erthygl gan Mrs Nansi Lloyd Ellis
|