大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Llanidloes Cyhoeddi Eisteddfod Powys 2010
Awst/Medi 2009
Hynt a helynt trefnu Eisteddfod Powys Llanidloes a'r cylch 2010.

Dyma ddechrau colofn fisol am hynt a helynt trefnu Eisteddfod Powys 2010. Erbyn mis Medi bydd gennym 'logo' i'w ddefnyddio ar ben y golofn, and y mis hwn soniwn am yr Wyl Gyhoeddi.

Cyhoeddir yr eisteddfod Ddydd Sadwrn, Hydref 17e9 2009 am 3.00 o'r gloch. Os bydd y tywydd yn ffafriol cynhelir y Seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn Victoria Avenue, os bydd y tywydd yn anffafriol, yna bydd yn Y Ganolfan Gymunedol.

Bydd gorymdaith yn cychwyn o'r Ganolfan ar 么l i bawb ymgynnull am 1.45 ac yn mynd ar hyd y Stryd fawr, Stryd y Dderwen Fawr, Stryd y Bont Hir ac yna i lawr Victoria Avenue at feini'r Orsedd.

Ar y blaen bydd Seindorf Y Drenewydd. Yn gorymdeithio bydd aelodau Gorsedd Eisteddfod Powys, cynrychiolwyr o Gyngor y Dref, Cynghorau Bro'r ardal, cynrychiolwyr o wahanol gymdeithasau a mudiadau a'r cyhoedd yn Ilu. Dewch i ymuno yn y digwyddiad pwysig hwn yn hanes y cylch.

Yng Nghylch yr Orsedd arweinir y gweithgareddau gan Y Derwydd Gweinyddol, Hedd Bleddyn. Cawn ddatganiad o'r Cywydd Croeso sydd wedi'i ysgrifennu gan Y Parch. John Pinion Jones.

Ceir Cyfarchiad Barddol gan Y Prifardd Penri Roberts. Bydd Wyth Gwladwr yn canu'n ddeuawdau o bedwar cwr yn y cylch cyn ymgynnull o flaen y Maen Llog i ganu'r pennill olaf yn wythawd. Mr. Bryn Davies fydd yn gyfrifol amdanynt. Estynnir croeso i bawb i'r Eisteddfod yn 2010 gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Y Parch. Edwin O. Hughes.

Mam y Fro fydd Mrs. Bethan Lloyd Owen. Miss Jane Griffiths fydd Morwyn y Fro. Mae trefniadau ar y gweill i ddewis y Macwyaid a'r Morynion, a dawnswyr y Ddawns Flodau, o blith plant yr ardal.

Wedi'r Seremoni bydd Iluniaeth i bawb yng Nghanolfan y Gymuned, a threfnir Cyngerdd yn yr hwyr am 7.30 o'r gloch.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy