Mae dau gyn-brifathro o'r ardal - sef Penri Roberts a Bryn Davies yn trefnu i gerdded o safle gwersyll Rhufeinig Caersws i wersyll Rhufeinig Tomen-y-Mur ger Trawsfynydd, gan geisio dilyn yr hen ffyrdd Rhufeinig -'Sam Helen' yn bennaf.
Mi rydem yn gwahodd ychydig o 'selebs', rhai sydd a chysylltiadau 芒'r ardaloedd ar y daith, neu sy'n digwydd bod yn ffrindiau 芒 ni, i ddod gyda ni yn gwmni am sgwrs ar y siwrne. Yn barod mae lolo Williams, Rhys Meirion, Lowri Turner, Dafydd Iwan a Christine Pritchard wedi cytuno i ymuno gyda ni. Mi rydem yn ddiolchgar iawn iddynt am gytuno i roi diwrnod o foddhad i gyd-gerdded yn gwmpeini difyr. Mae eraill yr ydym wedi cysylltu 芒 hwy ac yn disgwyl atebiad oddiwrthynt.
Pwrpas y daith yw codi arian tuag at brosiect i fynd a Ilond cynhwysydd o lyfrau darllen Saesneg o Gymru i ysgolion cefn gwlad y 'Bush' yn Swaziland, Ile mae problemau enfawr. Rydym yn barod yn hel (lyfrau o ysgolion Powys - (lyfrau Saesneg nad oes mo'i hangen bellach. Bydd yr arian nawdd i gyd yn mynd tuag at dalu am gludo'r cynhwysydd o Lanwnog i Swaziland.
Rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o bobol o'r ardal sydd wedi cymeryd ffurflenni i gasglu enwau rhai sy'n barod i'n noddi.
Bydd y daith hon, efallai, yn wahanol i deithiau eraill ac yn goglais y dychymyg drwy fynd a ni ar hyd Ilwybrau a golygfeydd anfarwol y'Gymru guddiedig'!
Dyma y rhannau o'r daith:
Caersws i Langadfan (Mehefin 13fed);
2. Llangadfan i Lanrhaeadr ym Mochnant (Mehefin l4fed
3. Llanrhaeadr i Landrillo (Mehefin 15fed);
4. Llandrillo i Lanuwchllyn (Mehefin 16fed);
5. Llanuwchllyn i Drawsfynydd (Mehefin 17fed).
Er na allwn ni gymeryd cyfrifoldeb dros gerddwyr eraill (trefnu Diogelwch, Trafnidiaeth, Bwyd a Diod, Cymorth Cyntaf a Stiwardiau lechyd a Diogelwch a.y.y.b.), mae'n rhydd i eraill o'r cyhoedd gyd-gerdded a ni ar y trydydd diwrnod dros y Berwyn, o Lanrhaeadr Y.M. i Landrillo, ar eu liwt eu hunain.
|