大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Swae'r Pasg Cytun Llanidloes
Mai 2006
Adroddiad am Swae'r Pasg yn Llanidloes a drefnwyd dan nawdd CYTUN (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) Llanidloes.

Roedd tri man addoliad yn cael eu defnyddio ac roedd swyddogion ac aelodau'r gwahanol Eglwysi sy'n rhan o CYTUN yn rhan o'r cast. Ymwelodd dros ddau gant a hanner o blant o ysgolion dalgylch Ysgol Uwchradd Llanidloes dros nifer o ddiwrnodau a'r arddangosfa. Stori'r Pasg oedd yn cael ei bortreadu mewn gwahanol ffyrdd. Dechreuwyd y daith yng nghapel y Methodistiaid yn stryd y Bont Hir. Cafwyd cefndir a hanes y Swper Olaf gan Weinidog y capel sef y Parch Peter Jennings.

Roedd y festri wedi ei threfnu gyda bwrdd wedi ei osod gyda'r bwyd ac ati fel y deallwn yr oedd y drefn noson y Swper Olaf. Cyn symud ymlaen i ran nesaf y cyflwyniad roedd cyfle i bawb brofi'r bwyd a'r diod. Roedd y rhan yma wrth fodd y plant a'r oedolion fu'n ymweld 芒 rhan hyn y cyflwyniad yn sicr.

Yna ymlaen drwy Borth Hafren Llanidloes a ymdebygai i'r daith i Ardd Gethsemane. Aelodau Eglwys Sant Idloes oedd yn gyfrifol am y rhan ddramatig hyn ac roedd yn afaelgar tu hwnt.

Cyfarchwyd a thywyswyd yr ymwelwyr ar eu taith gan wraig a bortreadai'r angel. Yna ymddangosodd milwr Rhufeinig yn sydyn yn ystod y rhan hyn ac yna diflannu wedyn yr un mor ddisymwth. Gyda'r ffagl yn ei llaw arweiniwyd ni at Martha gan yr angel. Cyflwynwyd yn ddramatig a theimladwy iawn gan Martha sut fu i lesu gael ei wadu gan Pedr ac mor anodd oedd iddi ddioddef y fath brofiad.

Yna ymddangosodd Pilat (sef y rhan a chwaraewyd gan y Ficer Bob Pritchard) a arweiniodd bawb yna i'r llys barn yng nghefn Eglwys Sant Idloes. Cyflwynodd berfformiad credadwy iawn o Pilat ganddo cyn arwain pawb at y Groes lle y croeshoeliwyd yr lesu a dyna pryd y daeth Mair Magdalen i arwain yr olygfa. Y Parch Linda Cowan oedd yn portreadu'r cymeriad hyn a gwnaeth hynny yn wirioneddol effeithiol a theimladwy. Yna arweiniwyd ni allan o'r eglwys i Gapel y Drindod gan Mair Magdalen a bortreadwyd gan Llinos Morris yn y rhan hyn.

Yna wedi i bawb gyrraedd aeth ymlaen gyda'r stori o'r bedd gwag a'r Atgyfodiad. Cafwyd portread credadwy a gafaelgar eto gan Llinos o ran olaf stori'r Pasg. Yna arweiniwyd y rhan ddefosiynoi gan y Parch Jenny Garrard yn ei ffordd ddiymhongar a boneddigaidd a ddarllenodd gerdd wych am wir ystyr y Pasg.

Roedd mynd i mewn i Eglwys y Drindod yn brofiad hunllefus ynddo'i hun gyda arddangosfeydd bendigedig o stori'r Pasg, y Bedd Gwag, Gardd Gethsemane ac arddangosfeydd yn dangos gwahanol olygfeydd o Gristnogaeth ar waith heddiw, trefniadau blodau ffantastig ar sawl sil ffenestr a'r clytwaith penigamp gyda'r llythrennau'n "HAPPY EASTER" oedd yn eich cyfarch a thynnu eich sylw wrth fynd i mewn.

Mae angen diolch i bawb o aelodau CYTUN a weithiodd mor galed i roi'r gwaith hyn oll at ei gilydd ond mae'n rhaid estyn llongyfarchiadau calonnog i'r person/personau gafodd y weledigaeth i gyflwyno Stori'r Pasg yn y fath ffordd. Yn sicr bu gan y Parch Jenny Garrard ran allweddol yn yr arddangosfa a'r perfformiad i gyd a diolch Jenny am eich gweledigaeth chi. Bu'n brofiad gafaelgar, ysbrydol, teimladwy a heintus i bawb fu'n ei weld.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy