大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Mrs. Mai Richards, Mr. Glynne Richards a Mrs. Eluned Evans. Anrhydeddau
Ebrill 2008
Tri o gymeriadau gweithgar a hoffus y plwyf yn yr un llun sef Mrs. Mai Richards, Mr. Glynne Richards a Mrs. Eluned Evans.

Daeth cyfle i aelodau Capel Peniel i ddathlu dau achlysur gwahanol yn cyd-ddigwydd yn y gymuned.

Y cyntaf - a'r un sydd yn hysbys i'r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn oedd bod Eluned wedi cael yr Anrhydedd MBE gan y Frenhines yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. Fe'i hanrhydeddwyd am ei gwaith yn y gymuned - mae wedi bod yngl欧n 芒 Chlwb Bro Maldwyn (clwb i'r henoed yng Ngharno) ers blynyddoedd bellach - ac am ei gwaith dros glefyd cancr leukaemia yn Sir Drefaldwyn.

'Dydy Glynne a Mai Richards ddim wedi cael anrhydedd gan y Frenhines ond y maent wedi eu hanrhydeddu gan aelodau Capel Peniel Caron. Mae Glynne wedi ymddeol fel Ysgrifennydd yr achos ar 么l wyth mlynedd ar hugain a daeth cyfle i gyflwyno anrheg amserol iddo fel gwerthfawrogiad bychan am yr holl waith caled - ond mae aelodau Peniel yn ddigon craff i ddeall nad oedd Glynne wedi gwneud y gwaith i gyd ei hun. Tra y bu ef yn teithio'r Canolbarth i bwyllgorau P锚l Droed min nosau, Mai oedd yn gwarchod.

Mae darllenwyr y Seren ac aelodau Peniel yn gwybod un mor dda ydy hi am gadw dyddiadur, gwneud nodiadau atgoffa a chadw trefn weinyddol ar bob agwedd o weithgarwch y Capel - e.e. Mai sydd wedi bod yn trefnu Cwrdd Gweddi Merched y Byd yng Ngharno ers Degawdau.

Y mae hi'n ddiogel i ddweud bod gan Gapel Peniel le cynnes iawn yn eu calonnau ac y maent eu dau wedi gwneud eu rhan dros yr achos ar hyd y blynyddoedd gan frwydro i gadw drysau'r Capel ar agor.

Yn anffodus collwyd y frwydr honno oherwydd grym cyfreithiau iechyd a diogelwch - ond daeth tipyn o dda allan o'r sefyllfa hefyd pan symudodd Gwasanaethau'r Sul i gartref cysurus newydd yn y Ganolfan Gymdeithasol - ac erbyn hyn mae'r Methodistiaid a'r Annibynwyr yng Ngharno wedi lled-ymuno a cynhelir Gwasanaethau ar y cyd. Y Parch Edwin Hughes oedd yn cyflwyno'r seremoni fechan ac yr oedd y gynulleidfa yn werthfawrogol o'i arweiniad gofalus ar achlysur nodedig.

  • Anrhydeddu Eluned (rhifyn Chwefror 2008)

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy