大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Llwybr Efnisien Ieuenctid Maldwyn yn serennu
Mehefin 2007
Nos Sadwrn, Mai 19 cawsom y pleser o fynychu Theatr Hafren unwaith eto i weld sioe ddiweddara' Ysgol Theatr Maldwyn "Llwybr Efnisien".
  • Lluniau, adolygiadau a chlipiau sain o Penri Roberts yn s么n am sioe Llwybr Efnisien a Theatr Ieuenctid Maldwyn.

    Roedd gen i frith gof o'r hanes o'n nyddiau coleg ond fel yr oedd y sioe yn datblygu, daeth yr hen stori atgas yn 么l ataf. Roedd y golygfeydd o'r Ail Ryfel Byd ar sgrin yng nghefn y llwyfan yn awgrymu nad oes dim wedi newid ers dyddiau'r Mabinogi. Braf oedd gweld llond llwyfan o blant a phobl ifanc Maldwyn yn byrlymu o afiaith yn canu ac yn symud.

    Pleser llwyr oedd gweld y fintai fawr yn cyd berfformio gyda'i gilydd. Aelodau h欧n y cwmni oedd yn cymryd y prif rannau a da oedd sylwi fel yr oedd y lleisiau wedi aeddfedu a'r cyrff wedi cryfhau. Dynion oedd y cymeriadau erbyn hyn a hithau, Branwen (Elinor Camlin) yn gweddu'n hyfryd i'r cymeriad.

    Cefais fy mhlesio'n fawr gyda chanu ag actio Matholwch (Gwyndaf Llewelyn Davies) a Bendigeidfran (Osian Llewelyn Edwards) ac roedd pedwarawdau hyfryd gan aelodau Llys Matholwch, Rhodri Jones, Richard Lewis, Dafydd Francis a Luke McCall.

    A beth am Efnisien? Dyma gymeriad oedd yn siwtio Steffan Harri i'r dim a gallech weld ei fod yn mwynhau bob eiliad roedd o ar y llwyfan. Oes yna ddim diwedd i ddawn y bachgen yma? Mae ei bresenoldeb ar lwyfan yn anhygoel -yn llenwi'r lle pan oedd o ar ei ben ei hun hyd yn oed.

    Roedd dawnsio adar Branwen yn osgeiddig a dymunol iawn. Roedd llawer o ddawnsio yn y cynhyrchiad ac roedd y cyfan yn gaboledig - mae Mel Jones i'w llongyfarch.

    Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins sy'n gyfrifol am y sioe yma eto ac mae ein dyled yn fawr i'r tri am eu gwaith caled yn rhoi y cyfleoedd ardderchog yma i ieuenctid Maldwyn. Diolch yn fawr am Ysgol Theatr Maldwyn a phob lwc ar y daith i Rhosllannerchrugog, Y Rhyl, Harlech a'r Bala yn ystod yr wythnosau nesaf.

    Diolch am y wledd 'rhen blant.

  • Lluniau o sioe Llwybr Efnisien
  • Theatr Hafren a Theatr Maldwyn yn cyfuno ar gyfer taith

  • Cyfrannwch

    richard lewis o llanfyllin
    enjoies yr sioe yn aruthrol yn enwedig richard lewis mi roedd yn plesei iw wylio
    Wed Nov 19 09:50:35 2008

    MeirionJones dinas Mawddwy
    Roeddwn i yn ran or sioe ond dim yn un or prif gymeiriadau tan y perfformiad yn y bala.roedd yr awyrgylch yn wych!! Diolch mawr i Penri, Linda, Derec a Mel am pob peth!!
    Wed Jul 11 12:37:12 2007

    Meirion Jones o Ddinas Mawddwy
    Dwi'n aelod o gwmni Theatr Maldwyn ers bron i dair blynedd! Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau ac wedi cael cyfleon a profiadau byth gofiadwy!!! Mae'r sioe Llwybyr Efnisien newydd cael ei gwneud ac yn falch iawn o fod yn ran o'r cwmni !!Hoffwn ddiolch yn fawr i Penri,Linda a Derec!!!Maent wedi rhoi cyflaeon gwych i ni ac mae pawb o Faldwyn ai pob cyfnogeth tu ol i'r cwmni!!!!
    Wed Jul 11 12:33:48 2007

    Luke McCall o Bala
    Roeddwn i yn y sioe hwn yn chwarae un o rhanau y Llys ac yn eilydd i Bendigeidfran, cefais siaws i chwarae rhan Bendigeidfran yn Y Bala, ac y sioe hyn oedd un o profiadau gorau fy mywyd! Diolch mawr i Penri, Linda, Derec a Mel am pob peth!!
    Sat Jul 7 17:43:13 2007

    Heledd Evans, Harlech
    Fues i'n gweld y sioe neithiwr- peth gorau rydw i wedi gweld yn Harlech ers tro byd!
    Mon Jun 25 10:33:37 2007


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy