Llwyddiant ysgubol fu Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod yr Haf yma. Braf oedd clywed llwyddiant nifer o ddarllenwyr y Seren.Dyma hanes wythnos ym mywyd Dysgwr y Flwyddyn Mike Hughes :
Cefais wythnos fythgofiadwy yn yr Eisteddfod eleni. Rhaid cyfaddef bod y tywydd twym yn cyfrannu'n aruthrol at awyrgylch yr wythnos hefyd. Cychwynnodd ar fore dydd Llun yn y Trallwng pan gefais f'urddo i mewn i Orsedd y Beirdd gan yr Archdderwydd, Robin Lewis, wedi imi basio arholiadau'r Orsedd ym mis Mai eleni. Cynhaliwyd y seremoni hon yng nghylch yr Orsedd ger yr Hen Orsaf, a braf oedd cael f'urddo ar yr un diwrnod 芒 phobl enwog y wlad fel Angharad Price, Aled Jones Williams, a Ioan Gruffudd.
Wedyn yn y prynhawn, fel aelod newydd o'r Orsedd, manteisiais ar y cyfle i eistedd gyda'r Orsedd yn y Pafiliwn yn ystod seremoni'r Coroni. Roedd yn wych gweld y digwyddiad o'r man ffafriol hwnnw, achlysur na fyddaf byth yn ei anghofio.
Digwyddiad pwysig arall imi yr wythnos honno oedd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, a gynhaliwyd ar y dydd Mercher. Roedd pedwar ohonom yn y rownd derfynol - Theresa Cody, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, Glyn Davies, Aelod Cynulliad o Aberriw, Aran Jones syn gweithio i Gyngor Sir Gwynedd yng Nghaernarfon a hefyd sy'n aelod brwd o Cymuned a minnau. Roeddem wedi cwrdd 芒'n gilydd yn y rownd gynderfynol ym mis Mai, ac roedd cyfeillgarwch cynnes wedi datblygu rhyngom ni'n pedwar.
Cefais yr argraff ein bod ni i gyd yn teimlo bod hi'n fraint ac yn gamp i gyrraedd y rownd derfynol. Yn sicr, yn y rownd gynderfynol, roedd yn galonnog sylweddoli bod cymaint o ddysgwyr yn cyfrannu'n helaeth i'r bywyd Cymraeg yn eu hardaloedd eu hunain, tystiolaeth bod gan ddysgwyr ran bwysig i'w chwarae.
Roedd HTV wedi ymweld 芒 ni yn ystod Gorffennaf er mwyn ein ffilmio yn ein cynefin ar gyfer rhaglenni Dysgwr y Flwyddyn a Welsh Learner of the Year a ddarlledwyd yn ystod yr wythnos ar 么l yr Eisteddfod.
Gwahoddwyd ni ein pedwar i babell HTV amser cinio gyda'n holl westeion er mwyn gweld y darnau hyn wedi'u golygu Er syndod imi, roedd yr ystafell dan ei sang, a dechreuais ddod yn ymwybodol o gymaint o sylw roedd y gystadleuaeth hon yn ei dynnu. Roedd rhai gwleidyddion adnabyddus yno gan gynnwys Dafydd Wigley, ond efallai dylanwad Glyn oedd y rheswm am hynny! Er mwyn cwblhau'r rhaglen ar gyfer y teledu, gwnaethom dddarnau byrion o ffilmio ar y maes, cyn inni fynd i mewn i Babell y Dysgwyr am y gystadleuaeth ei hun.
Tasg gyntaf inni oedd cyfweliad cymharol fyr a chyfeillgar gyda Mrs Eirlys Thomas ar lwyfan y babell o flaen llond ystafell o bobl. Wedyn, fe'n gwasgarwyd wrth fyrddau yn y babell, ac roedd rhaid inni siarad 芒 phobl oedd yn y babell am drysor roeddem wedi clod ag ef. Euthum a chyfres o luniau o Lyn Llanwddyn wedi'u paentio gan arlunydd lleol. Amcan y dasg hon oedd ysgogi sgwrs rhyngom ni a'r cyhoedd, ond y bobl gyntaf a ddaeth ataf oedd chwiorydd un o'm cymdogion ac roeddent am siarad a mi am hanes ein ty!
Er hynny, roedd y dasg hon yn un hynod o ddiddorol. Cefais sawl ymddiddan difyr gyda phobl, ac mae'n amlwg bod teimladau tuag at arwyddoc芒d Llyn Llanwddyn yn dal yn gymysg. Wedi'r dasg hon, dim ond y cyfweliad olaf gyda'r tri beirniad oedd ar 么l (Ond, cyn hwnnw, un protest bach gan rai ohonom ar ran Cymuned yn stondin Swyddfa'r Post!)
Cynhaliwyd y cyfweliadau mewn un o swyddfeydd tawel yr Eisteddfod, a pharhaodd am ryw chwarter awr, ond mewn awyrgylch anffurfiol dros ben. Roedd y prynhawn wedi hedfan heibio, ond ar 么l yr holl fwrlwm, roedd rhaid inni aros tan y nos i glywed penderfyniad y beirniaid. Er hynny, gofynnwyd inni wneud un cyfweliad arall gyda S4C cyn inni adael y maes!
Cynhaliwyd Noson Wobrwyo yng ngwesty Royal Oak yn y Trallwng ac eto roedd y lle yn llawn. Llywyddwyd y noson gan Mererid Hopwood a oedd wedi cael ei choroni brynhawn Llun a chawsom adloniant gan Si芒n James. Clywsom feirniadaeth y beirniaid gan Elwyn Hughes, a dyma ddechrau teimlo ar bigau'r drain. I ddechrau, rhestrodd y pum maen prawfRoeddent wediu defnyddio ar gyfer y gystadleuaeth, ond wedyn, dywedodd fod y pedwar ohonom wedi llwyddo ynddynt, ac or herwydd roedd hi wedi bod yn anodd iddynt benderfynu pwy a fyddair enillydd.
Gallwn glywed fy nghalon yn curo yn ystod y feirniadaeth, ond yr un peth sy'n gludo yn fy meddwl yw Elwyn yn honni mai'r enillydd go iawn y noson honno oedd yr iaith Gymraeg. O ran y gymeradwyaeth a ddilynodd, roedd pawb yn gytun. Ar 么l i Elwyn gyhoeddi mai fi oedd yr enillydd, ni wyddwn beth i'w wneud (er y gwyddwn y byddai'n rhaid imi brynu peint i Aran fel y cytunwyd!)
Derbyniasom ein pedwar tlws yr un gan arlunydd o Lanerfyl - golygfeydd lleol wedi'u llosgi ar bren. Nid yw'n ormodiaith i ddweud bod ennill y gystadleuaeth hon yn anrhydedd enfawr, a hefyd, teimlaf fod gennyf ryw gyfrifoldeb o ganlyniad. Yn sicr, y peth cyntaf roedd rhaid imi ei wneud cyn imi gael gadael oedd ffonio Radio Cymru er mwyn trefnu cyfweliad ar y maes yn y bore! Cefais gyfle y noson honno i annerch y gynulleidfa, ar un peth roeddwn am ei bwysleisio oedd pwysigrwydd cefnogaeth Cymry Cymraeg i ddysgwyr.
Un peth yw dysgu'r iaith mewn dosbarth, ond peth arall yw cael cyfle i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol, ac i dderbyn cyfrifoldebau mewn mudiadau Cymraeg eu hiaith. Oni bai am gefnogaeth ac amynedd nifer helaeth o Gymry Cymraeg, ni chai dysgwyr gymaint o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu'r Gymraeg.
Os oedd dydd Mercher yn brysur, roedd dydd Iau yn wyllt! Nid oeddwn yn barod ar gyfer cymaint o sylw a gefais. Cyrhaeddais y maes gyda'm mam am 8.15 y.b. ar gyfer y cyfweliad ar Radio Cymru cyn symud ymlaen i wneud cyfweliad Saesneg ar Radio Wales. Yno. cwrddom 芒 Hywel Gwynfryn a threfnu cyfweliad yn eu stiwdio fechan yn y Pafiliwn ganol y bore. Cefais dynnu fy llun a chyfweliadau di-rif gan y wasg. HTV a'r 大象传媒 - ar y maes yn ogystal ag mewn stiwdio. (Roedd rhaid i Mam a minnau fod yn gyfrwys a dianc er mwyn cael rhywbeth iw fwyta i ginio!)
Cynhaliwyd seremoni arbennig ym Mhabell y Dysgwyr yn y prynhawn dan ofal yr Archdderwydd er mwyn gwobrwyo enillwyr cystadlaethau adran y dysgwyr. Fem cyflwynwyd yna eto, ond braf oedd gweld hefyd bod Aran yn fuddugol yn y gystadleuaeth ryddiaith. Wedyn. Brysio ir Pafiliwn er mwyn cael fy nghyflwyno ar y llwyfan gan Dr R Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod, a chyfle eto i annerch cynulleidfa fwy. Ond petawn wedi sylweddoli bod fy ngeiriau yn cael eu darlledu ar hyd y maes, (fel y darganfum nes ymlaen) efallai ni fuaswn wedi teimlo mor hyderus!
Er hynny, roedd hyn yn anrhydedd arall, ac imi un o uchafbwyntiau'r wythnos.
Roedd cymaint o apwyntiadau i'w cofio anghofiais ymhle y dylwn fod wedi bod ar adegau! Ond, roedd popeth drosodd erbyn 4.30 y.p. a chaem fynd adref! Er gwaethaf yr holl brysurdeb a'r rhuthro o un pen y maes i'r llall, mwynheais yr achlysur yn fawr iawn - wythnos i'w chofio ac i'w thrysori am byth.
Mike Hughes. Dysgwr y Flwyddyn.