大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Llun o Lil a Sharon tu allan i Glyn - yr hen gartref O Alberta, Canada i Garno
Rhagfyr 2007
Ymweliad Lil a Sharon o Alberta, Canada i Carno ddiwedd Mis Medi 2007

Mae'r ddwy yma yn perthyn yn agos i Dilys Gittins Mitchell sy'n meddwl cymaint o Gymru a Charno.

Roed Lil wedi priodi Richard Lewis, un o naw o blant a aned i David Edwin, T欧 Nant, Carno ac Annie Jane (Gittins gynt), chwaer i Gertie Gittins, mam Dilys sy'n byw yn Edmonton Canada. Aeth David Edwin Lewis a Jane i Alberta, Canada yn y flwyddyn 1905 yn gyntaf i Penoka ac yna i Hayter lle bu David Edwin yng ngofal swyddfa bost a hefyd yn gwerthu pob math o offer ffermio. Mae'r t欧 gwreiddiol yn para - mae ar ei draed ac yn cael pob gofal gan Sharon, merch hynna Lil.

Ganed pedwar o blant i Richard a Lil a phan oedd Sharon yn 7 oed bu farw Richard. Wedi i'r plant dyfu fyny, fe aeth Lil i Katmandu, Nepal i ofalu am gartref i genhadon a bu yno am saith mlynedd.

Y cysylltiad efo T欧 Mawr, Carno yw bod mam Edwin wedi priodi Simon Jones ac fe aned pedwar o blant iddynt sef Arthur, Richard, Mary a Ceridwen.

Y diwrnod bu Lil a Sharon yn ymweld 芒 Charno cafwyd pob croeso gan Mr Parker i weld T欧 Mawr. Hefyd bu Mr a Mrs Bill Fairbrother yn garedig iawn yn rhoi croeso iddynt yn yr Hen Efail lle bu tad Annie Jane yn gweithio fel g么f.

Y Glyn oedd hen gartre teulu'r Gittins ac eto cafwyd cyfle i roi croeso iddynt gan Glynne a minnau yn y Maesnant a threuliwyd amser hapus iawn yn olrhain y teulu.

Bu ymweliad 芒'r Ganolfan lle gwelwyd y plac ar y wal wedi i Dilys a'i g诺r Doug roi 拢10,000 i gronfa'r Ganolfan yn 2003. Hefyd gwelwyd y Beibl a roddodd Dilys i Gapel Peniel er cof am ei mam Gertie.

Trist oedd gweld Capel Peniel yn dirywio'n awr ond roedd gwell golwg ar yr Hen Ysgol ar gyfer y Capel lle bu Annie Jane Gittins yn mynychu pan yn ferch fach.

Roedd Dilys wedi dymuno i Lil a Sharon weld y melinau gwynt ar y mynyddoedd uwchben Carno a dyna ddiweddglo hyfryd i'r dydd.

Balch iawn oedd Lil a Sharon i brynu darlun yn Yr Aleppo y noson honno o'r union fan ger y melinau gwynt.

Yr oedd Dilys a Doug yn hynod o ddiolchgar o'i dderbyn ar 么l i Lil a Sharon ddychwelyd yn 么l i Ganada.

Fel cydnabyddiaeth o'u pleser o ymweld 芒 Charno fe ddanfonodd Lil a Sharon gyfraniad caredig iawn o 拢150 i'r Ganolfan. Wel, diolch yn fawr i'r ddwy am eu haelioni. Diolch i Mrs Margaret Lloyd am ddod a'r hanes i'r Seren, oherwydd mae Dilys Gittins (Mitchell) yn derbyn y Seren yn rheolaidd a diolch hefyd i Mr a Mrs Malcolm Lloyd am fynd a'r ddwy i'r gwahanol leoedd drwy'r dydd er mwyn i'r ddwy gael gweld lle bu eu teulu yn gysylltiedig 芒 nhw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy