"Bu penwythnos y 19eg ar 20fed o Ebrill yn benwythnos hanesyddol yn hanes Llanidloes pan ddathlwyd can mlwyddiant Neuadd y Dre. Ar Ddydd Llun y Pasg 1908 agorwyd yn swyddogol Neuadd y Dre Llanidloes - rhodd werthfawr i'r dre gan David Davies, (yn ddiweddarach Yr Arglwydd Davies 1af) yr Aelod Sirol, ei fam a'i chwiorydd Margaret a Gwendolen o Landinam.
Mae'r hanes sy'n gysylltiedig 芒'r rhodd yn ddiddorol iawn. Yn 么l yr hanesydd Horsfal Turner roedd yr adeilad ynn ganlyniad i awgrymiadau gan nifer o gyrff. Roedd yna awydd i gael llyfrgell gyhoeddus yn y dre, ac mi gynnodd Diwygiad 1904 ddiddordeb ymhlith Cyngor yr Eglwysi Rhyddion i gael Gwesty Dirwest gyda stablau a fyddai'n cael eu cyfuno gydag ystafelloedd darllen a difyrrwch. Edrychwyd ar y posibiliadau o brynu Gwesty'r Trewythen. Ymwelodd dirprwyaeth o Gyngor yr Eglwysi Rhyddion a Phlasdinam yn 1905 i chwilio am gefnogaeth i'r fenter.
Yn ystod y cyfarfod mi gynigiodd yr Arglwydd Davies i adeiladu adeilad pwrpasol fyddai'n cynnwys ystafell luniaeth, ystafell ddarllen a llyfrgell, ystafell gyngor, ystafell filiards, gyda th欧 i'r gofalwr a stablau ar yr amod fod y Gorfforaeth yn darparu safle a gwaddol o ddeg punt ar gyfer llyfrau ac yn gofalu dros reolaeth yr adeilad. Ffurfiwyd pwyllgor o'r Gorfforaeth a Chyngor yr Eglwysi Rhyddion ac fe ychwanegwyd neuadd farchnad i'r cynllun. Pwrcaswyd y safle ar Stryd Y Dderwen Fawr am y swm o 拢1,300.
Yn yr agoriad swyddogol union gan mlynedd yn 么l cyflwynwyd rhyddfraint y fwrdeistref i'r Arglwydd Davies. Yn ei araith yn yr agoriad swyddogol dywedodd yr Arglwydd Davies ei fod o'r farn fod tref fel Llanidloes oedd heb neuadd y dre a marchnad yn anghyflawn. Ei obaith oedd y byddai'r adeilad a agorwyd yn arwydd o'r gwladgarwch lleol oedd yn destun llawenydd yn yr hen fwrdeistref. Roedd bellach gan y gorfforaeth lle byddai'n bosibl iddynt drafod materion y dref ynghyd a'i anghenion. Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensseiri Shayler and Ridge ac fe'i hadeiladwyd gan yr Adeiladydd Morgan Lloyd o Raeadr.
Bore Dydd Sadwrn y 19eg cynhaliwyd marchnad Edwardaidd yng nghanolfan y Minerva. Trefnodd nifer o fudiadau gwirfoddol nifer o stondinau oedd yn gwerthu gwahanol nwyddau- rhai yn berthnasol i'r cyfnod. Roedd y mwyafrif o'r bobl oedd y tu 么l i'r stondinau ynghyd a'r Maer a'r Faeres ac aelodau o gyngor y dre wedi gwisgo gwisgoedd y cyfnod ac roedd hyn yn ychwanegu at y naws.
Ar y dydd Sul cynhaliwyd gwasanaeth o Fawl yn eglwys Heol China o dan arweiniad y Parchedig Edwin Hughes ar Parch Jenny Garrard. Yr organydd oedd Mr Bryn Davies. Yn bresennol yn y cyfarfod oedd y Maer ac aelodau o Gyngor y Dre, Clerc y Cyngor, Cadeirydd Cyngor Sir Powys ynghyd a Chynghorwyr Sir lleol Maer y trefi cyfagos, aelodau o fudiadau gwirfoddol ac aelodau o'r cyhoedd.
Braint oedd croesawu cyn aelodau o Gyngor Bwrdeistref Llanidloes a chyn aelodau o Gyngor Tref Llanidloes i'r gwasanaeth., Yn ystod y gwasanaeth cafwyd darlleniadau gan Mr Michael Morgan Lloyd o Raeadr , sef 诺yr yr adeiladydd a hefyd yr Arglwydd Davies. Traddododd Y Parch Edwin Hughes anerchiad pwrpasol oedd wedi ei lunio'n gelfydd a rhoddwyd hanes y rhodd ynghyd a theyrnged i'r Teulu Davies gan y Maer, Y cynghorydd David Charles Jones.
Ychwanegodd yr eitemau swynol a gafwyd gan blant yr ysgol gynradd ar ysgol uwchradd at naws y gwasanaeth. Gwnaethpwyd casgliad at Swazibooks - prosiect gwerth chweil mae Mr Bryn Davies wedi cychwyn i gynorthwyo ysgolion sy'n ddifreintiedig yn Swasiland.
Ar ddiwedd y gwasanaeth gorymdeithiodd pawb i neuadd y dre lle y dadorchuddiodd Yr Arglwydd Davies blac i goffau'r achlysur- plac o lechen a luniwyd yn gywrain gan y saer maen lleol Ian Hughes.
Mae Pam Smith, Curadur Amgueddfa Llanidloes wedi trefnu arddangosfa yn ymwneud a Neuadd y Dre yn yr amgueddfa sydd wrth gwrs wedi'i lleoli yn y Neuadd. Yn ystod ei chanrif o fodolaeth mae'r Neuadd wedi gweld a goroesi nifer o newidiadau mewn Llywodraeth Leol . Wrth i ni ddathlu ei chanmlwyddiant hyderwn y bydd yma am ganrifoedd i ddod ac yn parhau i chwarae rhan bwysig a blaenllaw ym maes llywodraeth a dinasyddiaeth leol."
Erthygl gan David Jones, Maer Llanidloes