Daeth cynhyrchiadau Cwmni Theatr Maldwyn i ben gyda'r sioe anfarwol, "Ann" ar gyfer Eisteddfod Meifod ond erbyn hyn mae to newydd o bobl ifanc talentog wedi'i sefydlu ac Ysgol Theatr Maldwyn ar ei thraed ac yn dod i amlygrwydd yn yr ardal. Nos Sul, Mai 8fed, yn Theatr Hafren, cawsom fwynhau ail gynhyrchiad yr Ysgol. Cyngerdd oedd hwn o dan y teitl "Mae'r dyfodol yn ein dwylo ni" ac yn 么l yr eitemau a glywyd - mae'r dyfodol yn ddiogel yn nwylo'r Ysgol. Roedd y c么r yn ardderchog a'r eitemau cerddorol eraill hefyd yn werth chweil - Arwel yn arbennig. Cawsom ddawnsio disgo a jazz gwefreiddiol. Roedd dawn hiwmor rhai o'r cymeriadau cystal 芒 dim sydd ar y teledu - roedd ymateb y gynulleidfa i "Lttle Britain" Steffan Hard a rheolau d锚t Catrin Jones yn argoeli'n obeithiol iawn at y dyfodol. Cawn ddigrifwyr dawnus ar Noson Lawen rhyw ddiwrnod! Da oedd gweld fod gan y bobl ifanc yma ddoniau o bob math a daeth hyn i'r amlwg pan welsom nhw'n actio a chanu ar y llwyfan ac yna fe'i gwelsom yn y band jazz yn chwarae y gwahanol offerynnau - gwych iawn. Y t卯m cynhyrchu oedd Linda Gittins (Cyfarwyddwr Cerdd), Mel Jones, (Symud a Dawns), Marian Wilson (Cyfeilydd), Penri Roberts a Derec Williams (Cyfarwyddwyr), P A Rhad (Sain). Aelodau o'r band oedd: Linda Gittins (piano), Marian Wilson (allweddellau), Dylan Penri (git芒r), Osian Williams (drymiau). Mae Seren Hafren yn dymuno pob llwyddiant i Ysgol Theatr Maldwyn ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cynhyrchiad nesaf.
|