Rydym fel ardal yn llawenhau unwaith eto yn llwyddiant Dai wrth iddo gael ei anrhydeddu'n Gymrawd gan BAFTA Cymru. Wrth gyflwyno'r tlws iddo, cyfeiriodd Glenda Jones, y Cadeirydd, at ei ddawn unigryw fel cyfathrebwr penigamp. Mae ei gyfraniad i'r Byd Darlledu wedi bod yn ddifesur a dymunwn iddo eto flynyddoedd i ddiddori ei genedl ac yn arbennig ei 'Gefn Gwlad'. Hwyl fawr Dai a Llongyfarchiadau.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |