Cefais gyfle i ymweld a dysgu yn Ysgol Kenya, ein hysgol gefaill yn Lesotho, yn ystod gwyliau hanner tymor.
Bu'n gyfle gwych i gael profiad o wlad rydym yn astudio yn yr ysgol er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth i'm disgyblion.
O'm profiad personol i cwrddais a phobl groesawgar a chyfeillgar tu hwnt.
Roedd pawb yn barod iawn i helpu ei gilydd ac yn falch iawn i'm croesawu i'w plith. Rhaid cyfaddef nad oedd Lesotho fel y disgwyliais, roedd yno ddigonedd o wyrddni, yn annhebyg i'r pecyn ddefnyddiwn yn y dosbarth.
Serch hynny, roedd yn wlad dlawd iawn gydag amrywiaeth eang iawn o gartrefi ac amodau byw.
Roedd yno ddisgyblion oedd yn amrywio o ran oedran o 7 mlwydd oed i 18 oed o fewn y system cynradd, a'r rheini yn gymysg drwyddi draw yn 么l eu gallu.
Bum yn dysgu am gyfnodau ym mhob dosbarth a chefais gyfle i brofi'r system addysg sy'n bodoli yn y wlad.
Erbyn heddiw, mae'n gyfraith bod rhaid i pob plentyn fynychu'r ysgol ac mae eu system yn datblygu'n raddol.
Ni gychwynnodd rhai o'r disgyblion yn yr ysgol hyd nes oeddynt tua 14 yn y gorffennol, and trwy gynnig cinio am ddim i'r disgyblion mae hyn yn atynnu'r rhieni i ddanfon eu plant i'r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cael o leia un pryd o fwyd yn ddyddiol.
Bum yn yr eglwys, yr ysgol, ysgol gyfagos, y swyddfa addysg ac ar daith o gwmpas y wlad i ymweld a nifer o olygfeydd a mannau o ddiddordeb a rhaid dweud bod pawb gwrddais a nhw yn ystod fy ymweliad yn gyfeillgar a pharod iawn i rannu eu profiadau a chroesawu ni mewn i'w cartrefi.
Bydd ein disgyblion nawr yn ysgrifennu llythyron i blant Ysgol Kenya er mwyn rhannu profiadau, gwella dealltwriaeth o wlad a diwylliant arall a gwella sgiliau Saesneg a Daearyddiaeth yr holl ddisgyblion yn y ddwy ysgol.
Edrychwn ymlaen at dymor yr Hydref pan gawn gyfle i groesawu Lucia Monayanne, fy ngwesteiwraig am yr wythnos yn of i'n hysgol ni.
Bydd hwn yn gyfle gwych iddi brofi bywyd cefn gwlad Cymru a derbyn yr un croeso cynnes a gefais i draw yn Lesotho gan ddysgu mwy am ei phobi a'i diwylliant.