Hyfryd oedd gweld y ddau gae Castle Hill yn orlawn, a heulwen Awst yn tywynnu, a'r seindorf arian yn chwarae fel y bu yn 1904. Oes ma' na newidiadau a gwelliannau lu ers hynny ond diolch am ymddygiad y werin bobl, ac am ei haberth i gadw'r fflam yng nghyn, mewn llawer cyfnod o galedwch, yn enwedig ar 么l y ddau ryfel byd. Iddynt hwy mae'r diolch ein bod ni heddiw yn dathlu llafur ddoe. Mawr yw ein gobaith felly bydd ein Sioe yn dal i ffynnu a mynd o nerth i nerth. Dyma'r pwyth sydd gyda ni i'n cyndeidiau. Manteisiwyd ar y cyfle i roi y dathliad ar gof a chadw trwy gyhoeddi llyfr sydd wedi cael adolygiad gogoneddus, nid yn unig gyda'r Arglwydd Morris o Aberafan ond pobl y dalgylch. Gallwn fesur ei boblogrwydd trwy'r gwerthiant sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Oes mae na stoc ar gael o hyd am bris rhesymol o 拢5. Manteisiwn, fel pwyllgor, trwy dudalennau'r Ddolen, i ddiolch i'r canlynol am gadw stoc i'w gwerthu - Siop Inc Aberystwyth. CCF Co-op Parcyllyn, Garej Llanilar a hefyd Siop y Pentref. Braf oedd gweld Eglwys y Plwyf yn orlawn i ganu Emynau o Fawl a ddewiswyd gan aelodau 芒 chysylltiad efo'r Sioe. Hyfryd oedd cael y cyfle i goroni'r penwythnos mewn modd urddasol. Cyn cloi'r cyfan cafwyd paned a'r cyfle olaf i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Gymunedol y Pentref. Cawsom y fraint o flasu teisen y canmlwyddiant a oedd wedi ei chyflwyno ar gyfer yr achlysur gan Mrs Tegwen Richards, Glanllyn Hall. Wrth ddiolch i bawb, cyflwynodd Mr Loxdale gopi o'r llyfr 'Y Ganrif Gyntaf' i swyddogion y ganolfan. Mae yn gopi unigryw gan ei fod wedi ei archebu gan y llywydd ac wedi ei gynhyrchu gyda clawr lledr. Diolch pwyllgor y Sioe yw hyn am gyd-weothrediad pobl yr ardal dros y blynyddoedd. Mae rhestr o ganlyniadau Sioe Llanilar yn rhifyn mis Medi o'r Ddolen.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |