Ar benwythnos cyntaf Tachwedd bu tair o aelodau'r clwb yn rhan o ddathliadau 70 mlynedd CFfI Cymru. Roedd Enfys, Anwen a Ffiona yn rhan o g么r mawr o dros 200 o leisiau oedd yn canu ar lwyfan Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd yn y Gala mawreddog. Cewch weld y Gala ar S4C ar ddydd G诺yl San Steffan.
Rhaid oedd gohirio ein hymweliad a T欧 Nant ar ddechrau'r mis felly cafwyd noson o gemau yn yr Ysgoldy. Elfen gystadleuol yr aelodau yn dod i'r amlwg wrth iddynt chwarae tennis bwrdd, `connect four' a gemau bwrdd eraill.
Daeth Donald Morgan o Blodau'r Bedol, Llanrhystud atom i gynnal noson. Bu'n dangos i ni shwt oedd mynd ati i greu arddangosfa ar gyfer y bwrdd Nadolig cyn i bob aelod gael tro yn creu campwaith eu hunain. Diolch iddo am noson ddymunol a phawb yn mynd adre' a'u campwaith yn barod i addurno'r t欧.
Ymlacio oedd y nod ym Mhenrhos ddiwedd y mis. Wedi cyfnod prysur braf oedd cael noson dawel (wel os chi'n galw 'water polo' yn dawel!) yn y pwll a'r jacwsi.
Mae'n amlwg fod y Nadolig ar eu ffordd oherwydd creu craceri bu'r aelodau yn y clwb ar nos Lun gyntaf Rhagfyr. Rhai yn dangos tipyn o dalent wrth addurno'r craceri mewn modd diddorol ac unigryw. Llongyfarchiadau i Betsan ar greu'r cracer a charden Nadolig a blesiodd beirniaid y noson yn fawr.
Ar ddydd Sul 19 Tachwedd bu Enfys yn niwrnod briffio rhyngwladol CFfI Cymru i ymgeisio am le ar un o deithiau tramor y mudiad. Llongyfarchiadau iddi ar gael ei dewis yn un o dim Rali Ewropeaidd Cymru a fydd yn teithio i'r Almaen yng Ngorffennaf 2007.
Cynhaliwyd Eisteddfod y Sir yn Neuadd y Celfyddydau Llanbed ar benwythnos olaf Tachwedd a CFfI Llanddeiniol yn cystadlu mewn 12 cystadleuaeth lwyfan.
Ar y nos Iau bu Carwyn a Huw yn chwarae eu hofferynnau yn gelfydd yn yr Unawd Offerynnol, a Huw yn cael ei ddyfarnu'n ail mewn cystadleuaeth o safon uchel. Bu Andrew a Gethin yn gohebu ar straeon diddorol yn y gystadleuaeth Bwletin Newyddion, y merched yn canu'n swynol yn y Parti Unsain a chriw mawr o fois a Miss Evans yn perfformio sgets 'Yr Ysgol'. Braf oedd clywed ymateb y gynulleidfa i j么cs y sgets.
Parhawyd gyda'r cystadlu ar fore Sadwrn pan fu Huw yn llefaru dan 13 ac yna Ffiona ac Enfys yn Canu Emyn. Nesaf ar y llwyfan oedd criw'r ymgom sef Gethin, Ffion a Betsan yn perfformio darn o waith o eiddo Dylan Iorwerth. Daeth ABBA a Queen yn fyw unwaith eto wrth i 17 o aelodau gamu ar y llwyfan yn y Meimio i Gerddoriaeth. Tro'r unawdwyr oedd hi unwaith eto pan fu Gareth Harries a Carwyn yn adrodd digri, Gareth ac Anti Bertha yn cyrraedd y 3ydd safle. Cynrychiolwyd CFfl Llanddeiniol yn y ddeuawd ddoniol eleni gan ddau alien o blaned yr odbods, dywed rhai taw Ffion ac Enfys oedd yn cwato to 么l i'r cymeriade!
Diweddwyd cystadlu Llanddeiniol pan ddaeth Ffiona i'r llwyfan i ganu'r g芒n `Wyt ti wedi meddwl' yn yr unawd Sioe Gerdd. Braf oedd clywed fod Enfys wedi cyrraedd yr ail safle yn y limrig ac yn 1af yn y frawddeg. Daeth Rhaglen y Clwb hefyd i'r brig. Wedi'r holl gystadlu, cyhoeddwyd fod CFfI Llanddeiniol yn 8fed yn yr Eisteddfod.
Llongyfarchiadau i'r holl aelodau fu'n perfformio - braf oedd gweld criw Llanddeiniol yn gyson ar y llwyfan.
Lluniau a Chanlyniadau Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Bont 2006
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |