Roeddwn i'n awyddus iawn i ymgymryd a gwaith gwirfoddol ers sawl blwyddyn, ac felly roedd yn gam naturiol i ymgorffori hyn i'n cynlluniau teithio ehangach.
Dechreuodd ein taith ym mis Ebrill 2006, ac ar 么l treulio 4 mis yn Ne America cyrhaeddon ni Tanzania ar ddechrau mis Awst. Ein cartref am y misoedd canlynol oedd pentref bach o'r enw Rau ar gyrion Moshi, un o brif drefi gogledd Tanzania ar odre Kilimanjaro. Roedd Siwan a finnau yn awyddus iawn i ddefnyddio ein profiad a'n sgiliau o'n swyddi blaenorol fel rheolwyr yn y maes datblygu economaidd, ac felly fe'n penodwyd i weithio 芒 KIWODEA (gr诺p sy'n darparu cymorth datblygu busnes yn benodol i'r bobl dlotaf yn y gymuned gan gynnwys gweddwon, rhieni sengl a rhieni maeth).
Yn Tanzania, fel cymaint o wledydd eraill yn y Trydydd Byd, mae rhedeg busnes yn realiti anochel yn hytrach na bod yn weithred o ddewis. `Roedd y mwyafrif llethol o'r unigolion buom yn cydweithio 芒 hwy yn eithriadol o dlawd ac yn anllythrennog - rhai heb dderbyn unrhyw addysg o gwbl. Un yn unig o'r perchnogion oedd yn cadw cofnodion ariannol o'r busnes, ac felly nid oedd modd i'r gweddill wybod p'un ai roedd y busnes yn gwneud e1w neu golled - sefyllfa a gymhlethir ymhellach gan y ffaith eu bod yn byw o'r llaw i'r genau.
Er mwyn ceisio adfer y sefyllfa a datblygu sgiliau busnes y perchnogion buom yn cynnal clinigau busnes a oedd yn rhoi cyfle i unigolion drafod eu problemau busnes ac i ni rannu cyngor ac argymhellion. At hyn, buom yn cynnal gweithdai sgiliau busnes ac yn cydweithio 芒 swyddogion KIWODEA i sefydlu system benthyciadau micro. Ein nod trwy gyfrwng y gweithgareddau yma oedd cynyddu incwm y busnesau unigol ac i wneud y busnesau a'r gr诺p yn fwy cynaliadwy.
Y mae'r dasg o greu cymunedau, busnesau ac economi cynaliadwy yn Tanzania yn dasg enfawr a fydd yn cymryd cryn amser. Cyn dechrau ar ein gwaith, 'doedd yr un ohonon ni dan yr argraff y byddem yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnod mor fyr. Serch hyn, mae pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau a bywoliaeth unigolion.
Un enghraifft nodedig o hyn yw hanes dwy ddynes Fwslemaidd, sef Rehema Mohamed a Sofia Ali, sydd ill dwy yn pobi gwahanol fathau o fara a'u gwerthu i siopau lleol. Ar 么l mynychu un o'n gweithdai ar reolaeth ariannol, roedd y ddwy wedi'u hysbrydoli i ddechrau cadw cofnodion ariannol ar gyfer eu busnes. Daethant i'r clinig busnes yr wythnos ganlynol gyda llyfrau newydd sbon yn eu dwylo. Gan fod y ddwy ohonynt yn anllythrennog, roedd eu plant wedi cop茂o'r tabl cyfrifeg o'r gweithdy i dudalennau'r llyfrau ac wedi cynorthwyo'r ddwy fam i nodi eu treuliau a'u hincwm ar gyfer yr wythnos flaenorol.
Roedd hyn wedi ein galluogi ni i adnabod fod y ddwy ohonynt yn gwneud colled ar rai eitemau heb sylweddoli hynny, a fod rhai siopwyr yn talu pris gwahanol iddynt am yr un cynnyrch ar wahanol ddiwrnodau. Canlyniad hyn oedd ein bod yn gallu cynghori Rehema a Sofia ar ffyrdd o gynyddu eu hincwm, hyfywedd eu cynnyrch, gwella effeithlonrwydd yn ogystal 芒 datblygu eu hyder i ddelio 芒 siopwyr.
Enghraifft arall yw hanes Nicholaus Deus, g诺r gweddw a 9 o blant sy'n gweithio fel teiliwr. 'Roedd peiriant gwn茂o Nicholaus yn hen ac o ansawdd gwael a olygai nad oedd y dillad a gynhyrchai o safon mor uchel 芒 rhai o'i gystadleuwyr. O'r herwydd, nid oedd yn gallu codi pris mor uchel am ei gynnyrch. Er mwyn ennill pris uwch am ei
gynnyrch 'roedd angen arno beiriant gwn茂o newydd a fyddai'n cynhyrchu dillad o safon uwch. Roedd Nicholaus eisoes wedi ceisio dechrau cynilo arian i brynu peiriant newydd, fodd bynnag, pan aeth un o'i blant yn s芒l iawn bu rhaid iddo ddefnyddio'r cynilion i dalu costau meddygol ei fab. Yn ddealladwy, 'roedd yn teimlo'n gwbl anobeithiol ac yn ddihyder.
Lluniwyd cynllun realistig iddo godi ei brisiau a chynilo'r swm angenrheidiol dros gyfnod o 7 mis. Er gwaethaf ei awydd i gynilo arian 'roedd yn amharod a dihyder iawn i godi ei brisiau gan ei fod yn ofni colli ei gwsmeriaeth yn llwyr. 'Roedd Siwan a finnau'n poeni'n fawr na fyddai Nicholaus yn gallu gwireddu ei ddymuniad i brynu peiriant newydd - peiriant a fyddai'n gallu cynyddu incwm ei deulu o 50%. Fodd bynnag, chwe wythnos yn ddiweddarach daeth Nicholaus n么l i'n gweld yn y clinig yn w锚n o glust i glust am ei fod wedi codi ei brisiau ac wedi gallu dechrau cynilo arian yn unol 芒'r cynllun a luniwyd.
Efallai bod llunio tabl cyfrifeg a chael yr hyder i godi prisiau yn ymddangos fel pethau cymharol fach a di-nod i ni ond maen nhw'n rhwystrau anferth i bobl fel Rehema. Sofia a Nicholaus. Bod yn dyst i bobl yn goresgyn y math yma o rwystrau wnaeth ein hymdrechion ni mor werth chweil ac a roddodd foddhad anferth i ni.
Elfyn Henderson