Mae George James, Minffordd, unwaith eto wedi rhoi Trefenter ar y map. Fel aelod o d卯m pysgota anabl Ceredigion bu yn cystadlu yng nghystadleuaeth cyfeillgar rhwng Cymru, Alban, Iwerddon a Lloegr, yn Llyn Brennig. Enillodd salver' arian am ddal y pwysau mwyaf - 11 pwys 13 owns am 7 pysgodyn y diwrnod cyntaf, a chwpan arian am y cyfartaledd mwyaf o bysgod dros y gystadleuaeth. Ar ddiwedd y cystadlu, daeth mawr wrth i d卯m Cymru ennill cwpan arian Rob Herbert Evans. Llongyfarchiadau mawr ac yng ngeiriau Moc Morgan, George oedd 'Pysgotwr y gystadleuaeth'. Fel y gwyr llawer iawn yn ardal y DDOLEN, mae George yn chwaraewr chwist hefyd, ac wedi codi cannoedd o bunnoedd i achosion da yn Gyrfaon Chwist a gynheli'r yn Ysgol Cofadail. Diolch George!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |