大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Lyn Ebenezer Hen 欧d y wlad
Mawrth 2007
Bu Lyn Ebenezer yn 诺r gwadd gyda Chymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion, gan siarad am hen gymeriadau'r Bont.

Ar y noson olaf o Chwefror daeth rhaglen y gymdeithas i ben am y gaeaf yma. Y syndod yw, medd y cadeirydd, fod amser yn mynd heibio mor gyflym. Er hynny braint oedd cyflwyno llais ac wyneb cyfarwydd i bawb, sef Lyn Ebenezer.

Fei ganwyd yn y Bont (Pontrhydfendigaid) yna byw yn Aberystwyth am gyfnod gan ddychwelyd yn 么l at ei wreiddiau. Braf felly sylweddoli fod pentref gwledig yn elwa, yn lle gweld pawb yn mynd i'r trefi neu'r dinasoedd.

Testun y noson oedd `Hen 欧d y Wlad'. Stor茂au a sylwadau am yr hen gymeriadau. Y rhai hynny a dreuliodd rhan helaeth o'u hoes o fewn ei milltir sgw芒r. Credai Lyn fod y pentref wedi dylanwadu yn gryf ar ei fywyd. Creadigaeth bentrefol, rhywbeth sydd yn aros gyda dyn drwy ei oes. Roedd yno ryw fath o gystadleuaeth barhaol. Yr afon yn rhannu'r pentref yn ddau blwyf, Gwnnws a Charon, felly ar faes neu lwyfan, ni yn eu herbyn nhw, oedd y drefn, a ni oedd y gorau bob amser, meddai Lyn!

Yna cawsom ychydig hanes rhai o gymeriadau mawr y Bont. Pobol fel Dic Bach, mawr ei faint, a mawr ei ddylanwad. Pawb yn teimlo'n ddiogel yn ei gwmni. Ef oedd brenin y Bont.

Llu o atgofion am deithio milltiroedd, pryd hynny mewn hen Austin 16. Weithiau i chwarae chwist, gweld dram芒u, cyngerdd neu eisteddfod. Llawer o hwyl a thynnu coes. Ar adegau nifer o'r arwein卢yddion yn cael amser caled. Y cyfan yn adlewyrchu hiwmor iach cefn gwlad, heb ddim atgasedd.

Ailadrodd stori mwnci Ffair-rhos a hefyd am angladd mwnci'r Bont. Tomos y Crydd yn mentro mor bell 芒 Llundain mewn Austin 7, yntau'n credu fod Llundain yn bell o bob man.

Gwraig o'r enw Martha yn mynd i Lundain am bythefnos, ac yn synnu fod plant bach wedi llwyddo i ddysgu siarad Saesneg. Cymwynaswr arall yn cynnig lifft i hen ffrind ar ei ffordd am Strata. `Na' meddai, 'mae arnaf hast i ddal y tr锚n'.

Wrth edrych yn 么l, pentref caredig yn llawn croeso oedd y Bont. Ni fyddai neb yn cael ei droi ymaith. Byddai bob tincer neu dramp yn cael croeso bob amser. Byddent oll yn hoff o ddychwelyd i'r Bont.

I gloi'r noson cawsom ychydig o hanes rhai o hen gymeriadau lliwgar tref Aberystwyth. Ond yn sicr ddigon, pobl y Bont oedd arwyr mawr Lyn. Erbyn heddiw mae Lyn yn un ohonynt!

Marged Phillips fu yn gyfrifol am dalu'r diolchiadau cyn i'r drafodaeth droi tuag at ein cyfarfod blynyddol. Yn unfrydol penderfynwyd ailethol y swyddogion presennol, i barhau am flwyddyn arall. Ein diolch i bawb am gefnogi'r gymdeithas. Dyma grynodeb o'r Swyddogion: Llywydd - J.R. Morris Llanddeiniol; Cadeirydd - Ieuan Parry Llanfarian; Is gadeirydd - Dafydd Jenkins Talybont; Ysgrifennydd - Edgar Morgan Llanilar; Trysorydd - William Evans Felin-fach.


Cyfrannwch

W J Jones o Gaerdydd
Tybed a ydy Lyn Ebenezer yn rhy ifnc i gofio am Bonaparte? Lrwsyn Teify Pools oedd ei enw arall, cipar i Lord Nelson ac yn byw ar gyflog fain. Yn y gaeaf byddai Lewis yn gwneud polion o goed a g芒i gan ffermwyr ar gyfer ffensio, hyn pan oedd yn byw ym Maes-llyn. "Gwna bolion" medd rhyw hen wag ac aeth hwn yn Napoleon gan ei fod yn Lewis "Napoleon" ac i dorri hyn i lawr cafodd yr enw Bonaparte gan lawer.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy