大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
G诺yl Rhedeg a Cherdded y Barcud Coch G诺yl Rhedeg
Gorffennaf 2008
Daeth pobl o bob cwr o Brydain i Nant yr Arian, Ponterwyd i ymuno yn Sialens y Barcud Coch a oedd hefyd yn Bencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Prydain a Chymru.

Ar benwythnos Canol-Haf cynhaliwyd G诺yl Rhedeg a Cherdded y Barcud Coch. Yn ystod y penwythnos bu dau gant o bobl o bob oedran yn cymryd rhan. Ar y Sadwrn daeth pobl o bob cwr o Brydain i Nant yr Arian, Ponterwyd i ymuno yn Sialens y Barcud Coch a oedd hefyd yn Bencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Prydain a Chymru.

Ar 么l brwydro dros un filltir ar ddeg ar hyd llwybrau mynyddig ardal Nant yr Arian, Goginan a Phendam, llwyddodd Mathew Collins o Glwb Athletau Caerdydd i ennill y ras am y trydydd tro yn olynol mewn 1 awr 14 munud a 50 eiliad gyda Martin Shaw o Glwb Aberhonddu a Mark Shepherd o D卯m Kennet, Rhydychen yn ail a thrydydd.

Yn dynn wrth ei sodlau yr oedd y ferch gyntaf, Anna Frost o Glwb Wrecsam, sy'n enedigol o Seland Newydd ond sy'n awr yn athrawes yn Llangollen, mewn amser anhygoel o gyflym, 1 awr 19 munud a 21 eiliad, gan greu record newydd. Yn ei dilyn o bell roedd Rachel Elliott o D卯m Kennet a Phoebe Webster, enillwraig y llynedd o Glwb Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd rhedwyr lleol dipyn o lwyddiant yn eu categor茂au, gyda'r brodyr Clifford a Dic Evans o Abermagwr yn ennill medalau aur, Dave Powell o Ystumtuen a Geoff Oldrid o Aberffrwd yn cael medalau arian a Kevin Holland o Aberystwyth yn ennill medal efydd.

Yn ogystal 芒'r rhedwyr, troediwyd y llwybrau ychydig yn fwy hamddenol gan tua dau ddwsin o gerddwyr a llwyddodd pawb i gyrraedd yn 么l mewn pryd i weld y Barcutiaid Coch yn cael eu bwydo gan Ceredig Morgan.

Yn dilyn y Sialens, ar fore'r Sul, cynhaliwyd Ras y Diafol dros 18 milltir o Barc Carafannau'r Woodlands, Pontarfynach i fyny i Gwm Myherin, heibio'r Bwa, i lawr i dir yr Hafod, yn 么l heibio Gelmast a'r Bwa cyn disgyn yn 么l i mewn i Gwm Myherin ac i'r Maes Carafannau.

Y tro hwn Mark Shepherd a Rachel Elliott oedd yn fuddugol a thrwy hynny enillodd y ddau ohonynt dlysau Sialens y Barcud Coch am eu hymdrechion dros y penwythnos.

Fel ar y diwrnod cyntaf, cynhaliwyd taith gerdded o 12 milltir i gydredeg 芒'r ras, yn dechrau o'r Bwa ac yn dilyn y ddwy ran olaf o'r cwrs redeg.

Y tro hwn daeth bron 40 o blant ac oedolion i gerdded, llawer ohonynt yn codi arian tuag ar elusen yr 诺yl, sef 'Ward y Galon' Ysbyty Bronglais.

Ar 么l trosglwyddo'r gwobrau ar y Sul anrhegwyd rhai unigolion am eu hymdrechion dros nifer o flynyddoedd - Rowland a Pat Sherwood am weithio'r canlyniadau ar y cyfrifiadur, Enid Lewis Evans am godi'r swm mwyaf o arian tuag at yr Ysbyty yn 2007, ac i ddymuno'n dda i ddau aelod o Gymdeithas y Barcud Coch ar achlysur arbennig, sef Menna Stephens yn dilyn ei phriodas 芒 Mark Bunton y prif gadlywydd a fydd yn dechrau ei yrfa yn y Llu Awyr yn fuan.

Hoffai Dic a'r pwyllgor, sy'n anelu at roi cyfle i bobl o bob cwr o Brydain a thu hwnt i gymryd rhan mewn gweithgaredd yn eu hamgylchfyd braf ac i godi arian tuag ar elusen leol, ddiolch o galon i bawb a gefnogodd yr 诺yl, y Noddwyr hael, y tirfeddianwyr, Cymdeithasau Rhedeg Prydain ac Athletau Cymru, yr holl wirfoddolwyr a'r cyfranogwyr a ddaeth o bell ac agos."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy