'Gwn ei ddyfod fis y m锚l
Gyda'i firi, gyda'i flodau' a hefyd fis trip Gwanwyn ein Cymdeithas. Roedd Mari Morgan wedi trefnu mewn da bryd ein bod yn mynd i Sain Ffagan, y cwbwl oedd ei angen oedd codi ychydig ynghynt i ddal y bws, dewis sedd a bant 芒 ni am y De. Aros yn Llanymddyfri am de neu goffi, trip i'r toiled ac ailgychwyn dros Fannau Brycheiniog, cymryd yr A470 a chyrraedd pen y daith yn saff. Cafwyd pryd da o fwyd cyn dechrau crwydro oddi amgylch, pawb i'w ffordd ei hun. Roedd angen p芒r o goesau da a thraed heb gyrn - ond amhosib wedyn oedd gweld popeth. Criw eithaf blinedig ddaeth i'r bws am bump o'r gloch. Dychwelwyd ar hyd y draffordd M4 a chyrraedd Gwesty'r Porth yn Llandysul, a swper blasus wedi ei baratoi ar ein cyfer. Pawb wedi mwynhau diwrnod pleserus iawn am fod Mrs Morgan fel arfer wedi gweithio'n galed a threfnus. Diolch yn fawr eleni eto am eich holl lafur; diolch i Margaret a Julie am eu help parod. Buom yn ffodus o gael Mr Hywel Wyn Jones yn y cwmni: roedd yn adnabod de Cymru yn dda, a rhoes i ni sylwebaeth ddiddorol ar y daith. Diolch iddo am ei gyfraniad. Diolch hefyd i'r bobl a ddaethant i'n cefnogi; hen beth diflas yw bws hanner gwag. Edrychwn ymlaen at drip mis Medi. Erthygl gan Mair Owens
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |