Dydd Ian 5ed. Tachwedd oedd dyddiad cychwyn arbrawf 诺yn hyrddod Cymdeithas Defaid Mynydd Ceredigion.
Daeth 16 o aelodau a 35 o 诺yn hyrddod i'r arbrawf yn Ffald Penpompren, Talybont, a bydd rhain yn cyd-bori ar borfa'n unig ar fferm John Morgan, Home Farm Bronwylfa ger Wrecsam tan ganol mis Ebrill.
Cyflwynir Tarian Rhosgoch i'r oen hwrdd mwyaf addawol, gyda'r aelodau sy'n cymryd rhan yn dyfarnu 3 phwynt i'r gorau, 2 bwynt i'r ail ac un pwynt i'r trydydd.
'Roedd y gystadleuaeth yn uchelradd a'r buddugol yn cael 25 pwynt a'r ail 20 pwynt. :
Rhif tag y pencampwr 5902, wedi ei fridio gan Dafydd Jones Ceiro, Ponterwyd, a'r ail 4639, wedi ei fridio gan Gymdeithas C.A.M.P Pwllpeirian.
Gofynnais i Dafydd beth oedd tu 么1 i'r llwyddiant a dyma'r ateb: "Prynu hwrdd o Glanrafon, Talybont rhai blynyddoedd yn 么1 a hwnnw yw tad-cu 5902. Ef hefyd oedd tad yr hesben a gafodd y pencampwriaeth yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn 2008, hwrdd yn bridio'n dda."
Bydd yr 诺yn yn cael eu pwyso ar 么1 setlo i lawr, a hefyd ar ddiwedd y prawf, gan swyddogion H.C.C. a dau neu dri o'r perchnogion.
Bryd hynny, cewch ddarllen yr hanes yn llawn yn Y DDOLEN.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |