Hoffwn ddweud diolch i bawb a naeth fy nghefnogi yn y bingo ym mis Chwefror i godi arian at fy nhrip i Zambia a oedd yn drip bythgofiadwy. Dros y deg diwrnod buom yn dysgu 814 o ddisgyblion ysgol, athrawon a'r heddlu. Roedd yn llawer o waith caled ond roedd yn werth e, ac roeddwn wedi byw'r targed o ddysgu 4,500 o bobl. Roedd yn brofiad gweld yr ysgolion ond hefyd cawsom siawns i ddod I adnabod teulu yn eu cartref ar bwys ein gwesty. Buom yn hedfan o faes awyr Heathrow ar y 7 Mawrth ac roedd yn siwrne hir o 10 awr yn ddi-dor ond cawsom groeso cynnes gan ein ffrindiau yn St John Zambia. Dysgais i'r heddlu am ddau ddiwrnod ac mewn pedair ysgol gwahanol, am y gweddill. Tra yr oeddwn yno roedd diwrnod Ieuenctid Cenedlaethol a chawsom gyfle i fod yn rhan o'r orymdaith a aeth heibio llywydd Zambia. Roedd y diwrnod hwn yn hir lawn gan mai dyma oedd ein diwrnod poethaf hyd yn hyn, yn cyrraedd tua 40掳C. Cawsom ddau diwrnod arall heb orfod dysgu hefyd. Ar un ohonynt aethom i saffari ac ar y diwrnod arall aethom i ganolfan siopa lle roedd stondinau o eitemau wedi eu gwneud a llaw. Gan fod yr wythnos gyntaf o'n trip ynayn wythnos leuenctid Cenedlaethol, cawsom gyfle i fynd at eu gwyl gerddoriaeth a diwylliannol yn y neuadd leol, a chefais fy newis i fynd ar y llwyfan gyda nhw i ddawnsio. Roedd yn brofiad anghredadwy ac roedd y seremoni cau yn gr锚t achos cawsom siawns
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |