Uchafbwynt gyrfa y tenor ifanc Robyn Lyn Evans o Tynrhos, Pontrhydygroes hyd yn hyn oedd ennill 'Y Rhuban Glas', sef gwobr goffa David Ellis yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint ddechrau mis Awst.
Dyma oedd ei ymgais gyntaf am y 'rhuban glas' a hynny ar 么l iddo ennill ar yr unawd tenor agored dros 25 oed ar ddydd Iau'r Eisteddfod drwy guro Cardi ifanc arall sef Evan Williams o Ledrod ynghyd 芒 chyfaill agos, ac un o'r 'Tri Tenor' sef John Davies o Llandybie.
Y cam nesaf oedd paratoi ar gyfer Gwobr Goffa David Ellis - 'Y Rhuban Glas' oedd i'w chynnal eleni ar brynhawn Sadwrn olaf yr eisteddfod. Roedd amodau'r gystadleuaeth yn caniat脿u i gantorion newid yr unawdau ers cystadleuaeth yr unawd tenor, ond rhaid oedd cynnwys unawd gan gyfansoddwr o Gymru.
Dewis Robyn ar y prynhawn Sadwrn oedd 'Y Dieithryn' gan Morgan Nicholas a 'Tyrd cwyd yn awr o haul' allan o'r opera Romeo a Juliet gan y cyfansoddwr Ffrengig Gounod. Gwefreiddiwyd y dorf a'r beirniaid gan y cyflwyniad pruddglwyfus o'r 'Dieithryn'. Hefyd, gwerthfawrogwyd y cynildeb a'r tynerwch ynghyd 芒'r purdeb sain wrth gyfleu toriad y wawr yn y g芒n Ffrengig. Cyhoeddodd y gantores, a chyn enillydd y Rhuban Glas sef Glenys Roberts farn unfrydol y Panel Beirniaid y dylai 'Rhuban Glas' Sir Fflint ynghyd 芒'r wobr ariannol o 拢300 ei dyfarnu i Robyn Lyn.
Yn sicr mae canu a cherddoriaeth yng ngwaed Robyn. Dechreuodd ganu pan oedd yn ddwy oed ar aelwyd gerddorol Tynrhos, a chystadlu am y tro cyntaf pan yn saith oed yn Eisteddfod Capel Maesglas Ysbyty Ystwyth lle enillodd wobrau cyntaf. Yna mynd ymlaen i gystadlu mewn cylch ehangach o Eisteddfodau gan deithio ledled Cymru a chael llwyddiant mawr. Ymhlith ei lwyddiannau gellir rhestru ennill Tarian Goffa Dr Haydn Morris yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan yn 19 oed; Prif ganwr dan 16 oed yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen; y wobr gyntaf a phrif ganwr rhyngwladol ifanc yn Llangollen yn 1999.
Yn ogystal mae wedi ennill rhuban glas y prif ganwr yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan yn 2000 a Rhuban Glas Osborne Roberts dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch yn y flwyddyn 2000. Ers pedwardegau'r ganrif ddiwethaf dim ond pump ymgeisydd sydd wedi llwyddo i gipio'r ddau ruban glas (dan 25 oed a thros 25 oed).
Mynychodd Robyn ysgol gynradd Ysbyty Ystwyth ac Ysgol Uwchradd Tregaron cyn mynd ymlaen i Goleg y Drindod Caerfyrddin lle graddiodd gyda 2.1 mewn Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau a derbyn ysgoloriaeth Stuart Burrows. Bu'n gweithio i Goleg y
Drindod am gyfnod o wyth mlynedd cyn mynd i Goleg Cerdd Brenhinol Llundain i wneud 么l radd a derbyn gradd rhagoriaeth ym mis Gorffennaf eleni.
Llongyfarchiadau calonnog i Robyn Lyn a gobeithiwn glywed ei enw ar lwyfannau mawr y byd yn y dyfodol. Dyma ran o bennill cyfarch a gyfansoddwyd i Robyn gan ei ewythr, Aled Evans, Trisant ar ei lwyddiant.
Llongyfarchion i ti Robyn ar gyrraedd safon a bri,
Eisteddfod Sir Fflint oedd pinacl dy yrfa di.
Dydd Iau ennill y Tenor, Sadwrn cipio'r Rhuban Glas
Gan ymuno 芒'r mawrion - i brofi dy linach a'th dras.
Cliciwch yma i wylio perfformiad Robyn Lyn ar wefan yr Eisteddfod.
Llun o Robyn Lyn Evans ar safle'r Eisteddfod
Trefor Puw
Llongyfarchiadau mawr i Trefor Puw, Talwrn Coch, Trefenter, ar ennill Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis - am ganu dwy g芒n werin - yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Y Fflint.
Mae Trefor wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth yma o'r blaen. Mae hefyd wedi ennill yn yr 糯yl Gerdd Dant dair gwaith yn olynol am y g芒n werin. Mae'n aelod o G么r ABC a Ch么r Cantre'r Gwaelod. Yn ystod y misoedd yn arwain at y Nadolig a'r tu hwnt mae'n mynd o amgylch yn canu plygain gyda Pharti'r Penrhyn a hefyd gydag Eleri Roberts a Rhiannon Ifans. Mae Trefor yn weithgar iawn gyda'r 糯yl Gerdd Dant ac ef yw Prif Stiward G诺yl Gerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro ar 10 Tachwedd.
Bu Trefor yn Drysorydd Y Ddolen am sawl blwyddyn. Felly pob hwyl gyda'r canu, Trefor, ac unwaith eto, llongyfarchiadau!
Cliciwch yma i wylio perfformiad Trefor Puw ar wefan yr Eisteddfod
Llun o Trefor Puw ar safle'r Eisteddfod