Yn ystod mis Medi cawsom daith hyfryd a chysurus i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Un o berlau mwyaf gwerthfawr Cymru. Rhan o etifeddiaeth pob Cymro. Dyma un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf adnabyddus y byd, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd y wlad. Mae'r Amgueddfa'n adrodd hanes y Cymry- eu bywydau, eu gwaith a'u horiau hamdden. Mae Sain Ffagan yn rhoi cipolwg ar holl gyfoeth ac amrywiaeth diwylliant Cymru ac yn rhoi cyfle i ni fel ymwelwyr i drin a thrafod y gorffennol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dros 40 o adeiladau o bob rhan o Gymru wedi cael eu symud yn ofalus a'u hailgodi ar y safle sydd yn ymestyn i dros 100 erw. Gwelwn o fewn y terfynau goedwigoedd enfawr, gerddi trwsiadus a llwybrau diogel i deuluoedd gerdded ac ymlacio.
Ymhlith yr adeiladau mae ysgol fechan o Oes Fictoria, capel gwledig o Drefach, Pentref Celtaidd, Melin Lif a Melin Eithin. Cawsom hefyd y pleser o weld yr adeilad mwyaf diweddar sydd yn cael ei adeiladu, sef Eglwys Ganoloesol San Teilo o Landeilo Talybont ger Llanddeusant. Cafwyd cyfle unigryw i weld y gwaith adeiladu'n datblygu. Erbyn hyn mae'r gampwaith bron â chael ei chwblhau ar ol cyfnod o ddeng mlynedd yn y gwneuthur. Cliciwch i ddarllen fwy am Eglwys Teilo Sant.
Oddi allan gwelwyd bridiau o anifeiliaid brodorol yn pori, ac mae dulliau ffermio traddodiadol yn rhan bwysig o fywyd beunyddiol yr Amgueddfa. Ond wrth wrando ar y siarad yn ystod y daith adref rhaid cyfaddef mai'r ddau fochyn fu yn gyfrifol am ennill serch rhai o'r gwragedd.
Oddi fewn i'r prif adeilad ac yn arbennig yn yr orielau cafwyd cyfle gwych i drin a thrafod hen bethau sydd erbyn heddiw wedi mynd allan o ffasiwn ym myd amaethyddiaeth. Y dwylo erbyn heddiw wedi hen feddalu. Dim llawer o hiraeth ar ol y cryman, y bilwg, y fuddai na'r rhaca bach. Erbyn heddiw mae sedd y tractor wedi ei haddasu i fod yn swyddfa gyfforddus i'r gweithiwr, lle sydd yn cynnwys cyfrifiadur, ffon symudol a gwres i ateb y gofyn.
Pan gyrhaeddodd pump o'r gloch a'r drysau'n cau, ni bobol gogledd Ceredigion oedd y diwethaf i adael yr Amgueddfa. Yna troi am adref gan aros yng Ngwesty'r Porth Llandysul, i fwynhau swper parod wrth fodd pawb. Diwrnod i'w gofio a'i drysori.
Efallai fod rhai aelodau o'r Gymdeithas heb dderbyn rhaglen Y Gaeaf. Felly cofiwch fod ein cyfarfod nesaf ar 31 Hydref yn Neuadd yr Eglwys, Llanddeiniol, am 8 o'r gloch, pryd y bydd Mr William Griffiths, cyn brifathro Ysgol Cwmpadarn yn hel atgofion. Croeso. Cofiwch y dyddiad!
Gan Edgar Morgan
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |