大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Mared Llwyd Awdures ifanc
Chwefror 2010
Hanes nofel gyntaf gan athrawes ysgol gynradd.

Aderyn Brau yw nofel gyntaf Mared Llwyd, athrawes ifanc sy'n dysgu plant Blwyddyn 5 yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth sy'n ferch i Mari a Rheinallt Llwyd, Llangwyryfon.

Bu'n gweithio fel athrawes Saesneg yn Norwy ac ar 么1 sawl blwyddyn yn darllen nofelau i'w disgyblion, penderfynodd ysgrifennu nofel ei hun.

Meddai: "Fe fues i'n ysgrifennu yma ac acw yn ystod gwyliau'r ysgol dros gyfnod o tua dwy flynedd. Mae chwech wythnos o wyliau haf yn ddefnyddiol to hwnt i athrawon!"

Mae Mared wedi tynnu oddi ar ei phrofiadau personol yn y nofel. Bu hithau'n ddisgybl mewn ysgol fach wledig, gartrefol fel y prif gymeriad, Megan.

Ond mae byd Megan yn cael ei droi ben i waered pan mae hi a'i mam yn gorfod symud o'r pentref i fyw gyda'i mam-gu yn Abertawe.

0 dipyn i beth, daw Megan yn ffrindiau gyda'r hen 诺r sy'n byw drws nesaf, ac mae'r ddau'n gofalu ar 么1 aderyn bach brau sydd wedi'i glwyfo yn yr ardd.

Daw Megan i sylweddoli bod mwy i fywyd yn Abertawe nag a dybiodd ar y cychwyn.

Mae'r nofel yn trafod pynciau a fydd yn apelio at blant 9 i 13 oed sy'n ddarllenwyr da.

Meddai Meinir Wyn Edwards, un o olygyddion Gwasg y Lolfa: "Mae'n amlwg fod Mared yn adnabod ei chynulleidfa i'r dim. Mae'n ysgrifennu'n fywiog ac mae'r cymeriadau'n dal sylw o'r cychwyn.

Mae perthynas Megan a'r hen 诺r yn annwyl iawn ac ry'n ni'n cydymdeimlo a hi wrth i'w bywyd newid.

" Does ganddi ddim syniad pam adawodd ei thad mor sydyn ac mae ei mam al mam-gu'n cadw rhyw gyfrinach oddi wrthi.

" Mae'r awdur yn codi pynciau pwysig fel cau ysgolion bach, ac effaith tor-priodas a symud ysgol ar blentyn 11 oed mewn ffordd sensitif iawn, Rwy'n siwr y cawn ni fwy o nofelau gwych eraill gan Mared Llwyd."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy