Ar fore Mawrth 28 Chwefror, cynhaliwyd agoriad swyddogol Cylch Meithrin Glan-y-M么r yn y caban newydd ar dir a roddwyd i'r Cylch drwy haelioni Mr a Mrs Evans, Ystrad Teilo, Llanrhystud.
Rhoddwyd y caban i'r Cylch gan y Mudiad Meithrin a derbyniwyd grantiau gan CAVO a Chyngor Sir Ceredigion er mwyn dodrefnu a diogelu'r caban i sicrhau ei bod yn cydymffurfio 芒 chanllawiau iechyd a diogelwch modern. Mae'r Cylch yn hynod ddiolchgar am bob cefnogaeth leol a gawsant. Rhoddwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Plwyf Llanrhystud a Phwyllgor Carnifal Llanon ac fe fu ysgolion Llanon a Llanrhystud yn hynod gefnogol. Mae'r cylch yn croesawu plant o ddalgylch eang gan gynnwys Llanon, Cross Inn, Nebo, Pennant a Llanrhystud ac mae gennym ddwy aelod o staff arbennig, Mrs Karen Davies a Mrs Angharad Rees-Jones. Y mae ein diolch yn fawr iddynt am eu holl ymdrechion i sicrhau llwyddiant y cylch.
Bu Sali Mali yn difyrru'r plant 芒'r gwahoddedigion ar fore'r agoriad ac fe gynhaliwyd raffl lwyddiannus a noddwyd gan Fanc Barclays, Aberystwyth. Darparwyd stondin gacennau yn ogystal 芒 lluniaeth ysgafn a mwynhaodd pawb yn achlysur yn fawr.
Mae'r cylch yn llewyrchus iawn ac yn cwrdd bob bore rhwng 9.15 - 11.15 ac yn croesawu aelodau newydd. Bydd mwy o oriau ar gael ar 么l y Pasg. Os hoffech gysylltu 芒'r Cylch gallwch ffonio 07816 362701. Y t卯m o rieni a fu'n ddyfal ac yn ddygn yn eu hymdrechion yngl欧n 芒 sefydlu'r caban newydd yn gartref i'r Cylch oedd Cadeirydd - Lynda Jones Morris, Glancarrog, Llanrhystud; Ysgrifennydd - Anwen Jones, Porthmawr, Llanon; Trysorydd - Eleri Davies, Penlan, Llanrhystyd.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |