Mae gwaith adeiladu wedi ail ddechrau ar "Llwybr Ystwyth", sef y llwybr fydd yn rhedeg o Aberystwyth i Dregaron ar hyd yr hen rheilffordd. 'Roedd y llwybr wedi cyrraedd Pont Sigl Llanilar yn ystod yr haf ac yna bu oedi am rai misoedd. Ar hyn o bryd mae'r llwybr bron 芒 chyrraedd Felin Dyffryn a bydd yn cyrraedd Pont Simne Wen yn ystod y misoedd nesaf. Edrychwn ymlaen i weld y darn o iard yr Hen Rheilffordd Llanilar i L么n Glanyrafon, gyda phont newydd dros yr afon Adail, yn cael ei gwblhau yn ystod yr haf.Yn y llun gweler y llwybr yn ail gychwyn o Bont Sigl Llanilar.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |