大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Llyn Eiddwen O Wanwyn i Hydref
Hyfref 2003
Rwyf am eich cludo n么l i wanwyn fy mywyd i a'r gorchwylion fferm tymhorol yr adeg hynny. Cefais fy ngeni a'm magu ar dyddyn bach ar gyrion Llyn Eiddwen ar ben Mynydd Bach.
Ceisiai fy nhad-cu a'm mam-gu grafu bywoliaeth drwy werthu ychydig o laeth a wyn st么r. Cofiaf drin y sofl ar ben y Fforden fach a minnau bron yn rhy wan i droi'r handlen i gychwyn y tractor.

Hen arad lusgo oedd gyda ni'n troi gyda pheg bren yn ei dal wrth y tractor. Petai'r arad yn taro'n erbyn carreg wedyn byddai'r peg yn torri cyn creu difrod.

Y dasg nesa' oedd paratoi'r tir drwy ei lyfnu ac yna rhoi'r gryniwr yn sownd wrth yr hen goben goch. Byddai hi wedi bod yn y stabal drwy'r gaeaf yn bwyta brig yr ysgubau a dyna hwyl gaem ni'r plant wrth wylio Dad-cu yn ceisio cadw rheolaeth ar y gaseg oherwydd hynny. Ar 么l hau y tatws mynd drwy'r un broses wedyn gyda'r sweds, mangls a'r maip.

Cofiaf Dad-cu yn hau llafur gyda chynfasen fawr wen a ninnau'r plant yn symud picwarch i fyny'r dalar fel bod ganddo fart i anelu ato.Wedi i'r tymor wyna orffen symud y defaid a'r wyn i lawr i'r rhostir am yr haf ac yna byddai Dad-cu'n hau ciwana efo llaw gyda strapen harnais y gaseg am ei wddf i ddal y bwced. Cyn dechrau ar y gwair roedd yn rhaid mynd ati i gwympo y mangls a'r sweds gyda sachau hesian wedi eu clymu am y coesau i arbed y pen gliniau.

Y tywydd yn gwella i fynd at y gwair o'r diwedd a dechrau torri, yna mewn diwrnod neu ddau moelyd ystodiau gyda rhacannau bach. Wedyn gan fod yna gwmwl du yn yr awyr rhaid oedd mydylu. Cas beth gen i oedd gwneud hynny oherwydd gyda meddwl plentyn nid oeddem yn gallu gweld y pwrpas gan ein bod rhan amlaf yn eu hysgwyd allan y diwrnod canlynol, ond wrth dyfu'n hyn yn sylweddoli gwerth mwdwl gan fod y gwair yn sych ar 么l diwrnodau o law.

Cario'r gwair gyda'r gaseg goch yn y gambo a Mam druan bob amser ar ben y llwyth. Deuai contractiwr i dorri'r ceirch, na, dim efo tractor a rhwymwr na chmobein ond efo dwy gaseg yn tynnu'r injan gyda John yn eistedd arni.

Roedd ffetan wedi ei chlymu tu 么l i'r bar torri i ddal y llafur, ac yna pan fyddai digon ar y ffetan i wneud ysgub ei dynnu i ffwrdd. Byddai'r cymdogion yn dod ynghyd y diwrnod hwnnw a'r gwragedd yn rhwymo'r ysgubau a ninnau blant yn eu stacio yn rhesi. Cael te allan yn y cae, picnic go iawn.

Y dasg ddiwethaf cyn y gaeaf oedd tynnu'r tatw a gweddill y llysiau. Gwaith tri neu bedwar diwrnod oherwydd un peiriant tynnu tatws oedd rhwng ffermydd yr ardal a byddai pawb wedyn yn helpu ei gilydd. Arllwys y tatws allan yn y sied i sychu ac yna gorchwyl arall atgas sef didoli'r tatws.

Eisteddwn ar st么l odro, tatws bwyta mewn un bwced, tatws hau y flwyddyn nesaf yn yr ail a thatws m芒n yn y bwced olaf. Byddai Dad-cu yn rhoi y tatws hau mewn cl芒dd i'w cadw rhag y rhew tra byddai Mam-gu yn berwi'r tatws m芒n mewn pair a'u defnyddio i besgi'r mochyn a'r twrcis a'r gwyddau erbyn y Nadolig. Ninnau'r plant yn mwynhau stwmp tatw, menyn cartre a Ilaeth mwyn.

Roedd yn amser caled ond pawb i weld yn hapus ac yn hunan gynhaliol. Mae'r arferion hyn i gyd wedi diflannu. Pan ddechreuais weithio yn Amaethwyr Ceredigion n么l yn chwedegau y ganrif ddiwethaf roeddem yn gwerthu tua 40 tunnell o h芒d llafur a barlys bob blwyddyn a rhyw 20 tunnell o datws h芒d, ond erbyn heddiw gallwch rifo y tunnelli ar un llaw. Gwerthem dunelli o fwyd moch a ieir hefyd ond ychydig iawn nawr.

Odi ni wedi mynd yn genedl ddiog? Mae'n haws mynd i'r archfarchnad i brynu ein holl anghenion. Doedd dim s么n am y gair mawr traceability - pawb yn gwybod lle roedd y cig wedi ei gynhyrchu - gartre.

Ar 么l 37 o flynyddoedd yn y diwydiant rwy'n teimlo fy mod innau wedi cyrraedd hydref fy ngyrfa i. Er hynny, un peth rwy' wedi ail-ddechrau wneud eleni yw tyfu llysiau yn y cae fel bo fy wyrion bach i yn deall mai nid ar y silff mae cael popeth.

Alan Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy