Daeth anrhydedd arbennig i ran un o'r ardalwyr pan ymddangosodd Audrey Evans, Gwynfryn ar y rhaglen 'Diolch o Galon' ar S4C ar nos Sadwrn, 23ain Awst. Fe'i henwebwyd gan Elsie Davies, Aberystwyth ac Arthur Thomas, Llanilar am ei gwaith nodedig gyda Chlwb Str么c Aberystwyth dros nifer fawr o flynyddoedd. Audrey sydd yn trefnu y gwyliau, y tripiau a'r ciniawau y mae'r aelodau wedi eu mwynhau gymaint yn ystod y blynyddoedd ac yn amlwg yn cyfoethogi gymaint ar eu bywydau. Derbyniodd Audrey bowlen wydr hardd yn y Stiwdio a chafodd groeso mawr yng nghwmni Ifan Gruffydd a Gaynor Davies.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |