Roedd hon yn noson i ddathlu ac hefyd yn gyfle i godi arian i goffrau'r Ddolen.
Llywydd Anrhydeddus Y DDOLEN sef Dr. Meredydd Evans a wnaeth y cyhoeddiadau ac ef hefyd gyflwynodd y c么r a llywydd y noson. Gwnaeth hyn yn ei ffordd unigryw llawn hiwmor.
Cyflwynodd y c么r sef C么r Glannau Ystwyth a'u harweinyddes dalentog tu hwnt sef Delyth Hopkins Evans a'u cyfeilyddes medrus sef Gwyneth Davies.
Cafwyd eitemau arbennig o broffesiynol gan y c么r, hefyd adroddiad, unawdau a deuawdau. Cyflwynvyd yr eitemau gan aelod o'r c么r, sef Emyr Jones. Hanner amser cyflwynodd Mered gadeiryddes y noson, sef y Parchedig Ganon Enid Morgan o Aberystwyth, gynt o Lanafan, a fu'n un o olygyddion cyntaf Y DDOLEN. Braf oedd gweld ei gwr Gerald Morgan
yn bresennol.
Cafwyd geiriau pwrpasol ac amserol iawn ganddi a diolch yn fawr iawn iddi am ei chyfraniad hael tuag at Y DDOLEN.
Diolchwyd yn gynnes iawn i bawb am wneud y noson yn llwyddiant ysgubol gan gadeirydd Y DDOLEN sef J.R. Morris. Noddwyd y noson gan Fanc yr HSBC ac rydym yn ddiolchgar dros ben iddynt.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |