Mae'r paratoadau wedi bod yn mynd ymlaen ers tipyn ac mae aelodau'r pwyllgor yn ddiolchgar am gefnogaeth y cyhoedd. Felly gallwn edrych ymlaen am Sioe o'r safon arferol a gobeithio gweld arddangoswyr yn fwy niferus er nid oes eisiau achwyn byth ar y gefnogaeth yn Llanilar.
I ddechrau mae lleoliad y Sioe yn y cae gorau yng Ngheredigion - popeth yn gyfleus a digon o le gan ein bod bellach wedi lledaenu ein sefyllfa i ddau gae. Mae yna groeso mawr i arddangoswyr hen beiriannau, tractorau a cheir. Mae Glyn a Wyre James wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd ond braf fyddai gweld eraill yn eu cefnogi nhw. Rwy si诺r bydd lawer yn edrych yn 么l ar yr hen amser gynt ac i oes y ceffyl. Priodol yw gweld dosbarth i'r ceffylau gwedd eleni gyda Trefor Evans, Brongenau, g诺r profiadol o'r ardal, yn barnu. Sir Aberteifi yw cartref y Cobiau Cymraeg a braf yw cyhoeddi bod Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn cydnabod pwysigrwydd y dathliad trwy iddynt gytuno i ni gael Sioe Fedal Arian - diolch yn fawr iddynt. Mae y bythol wyrdd Dai Llanilar yn mynd i fod yn eithriadol o brysur. Mae'n barnu y gwartheg duon a hefyd yn cynhyrchu rhaglen ar gyfer Cefn Gwlad. Os nad yw hynny yn ddigon mae Dai druan yn cyflwyno noson o ganu gwlad gan John ac Alun ym mhabell y Sioe ar 么l gorffen gweithgareddau'r dydd. Ynghlwm a'r dathlu rydym yn trefnu arddangosfa yn y Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol. Mae croeso i bawb alw mewn i gael braslun o'r dyddiau a fu. Mae'r ganolfan yn gyfleus iawn i gae'r Sioe. Byddwn ar agor dydd Sadwrn a'r Sul! I goroni'r cyfan mae'r Parchedigion Robert Townsend a Nicholas Bee yn trefnu 'Caniadaeth y Cysegr' yn yr Eglwys ar y nos Sul. Dewisir yr emynau gan bobl leol a fu yn gysylltiedig efo'r Sioe. Ar 么l y canu, paned o goffi a bisgedi yn y ganolfan a chyfle unwaith yn rhagor i weld yr arddangosfa. I Lanilar dewch yn llu, ac ar 么l mynd adref darllenwch lyfr y canmlwyddiant 'Y Ganrif Gyntaf' yn eich cadair esmwyth.
|