![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn y ganolfan i ddechrau ar y gwaith o gynllunio'r Brithwaith dan arweinyddiaeth Pod Clare, arlunydd proffesiynol a oedd wedi cael ei chyflogi i arwain yn y fenter. Mi wnaeth gynllunio'r placs o ddefnydd archifal ac mae pob un wedi ei baentio gan wahanol berson.
Cymerwyd rhan gan 150 o bobl y gymuned o bob oed dros gyfnod o 6 mis yn ystod 2003-04. Penderfynwyd beth i'w gynnwys, pa liwiau i'w defnyddio, ble yw roi yn ddemocrataidd gyda Pod Clare yn troi syniadau yn ffaith. Gydag amynedd, anogodd pawb, yr ifanc a'r hyn i drio sgiliau newydd.
Rhannwyd y brithwaith i bum plac. Yn y plac cyntaf cafwyd hanes cynnar Llanilar sef caerau'r oes haearn, pen o garreg, cwpan y cymun o Sweden, carreg esgyn Harri'r VII, carreg Geltaidd, Wrn yr oes Efydd ac Eglwys Ilar Sant.
Mae'r ail blac yn cynnwys hanes mwy diweddar sef Efail y gof, Plas Castle Hill, Gorsaf Rheilffordd, Capel Carmel, Ar y ffordd fawr - ddoe, Gwesty'r dirwest a Gwesty'r Falcon.
Yn y canol ceir y trydydd plac o fap y pentref sy'n cynnwys dwy linell gwpled, 'A phedair ffordd yn mynd o'r fan i bedwar ban Byd'.
Yn y 4ydd plac gwelir hanes Treftadaeth Wledig, Sioe Llanilar, Pysgota, Treialon C诺n Defaid, Hela, Diwrnod Dyrnu ar fferm Llidiardau, Saethu a Bywyd Gwyllt.
Yn y pumed plac gwelir hanes y cyfnod modern. Y Ganolfan lechyd, Carnifal, Stadau Tai, Canolfan yr Hen Ysgol, Y bont siglo, rasys hwyaid ac awyrennau, pentref glandecaf Sir Aberteifi, clwb p锚l droed.
Nid yw'r gwaith terfynol yn hawlio i fod yn hanes cyflawn o Lanilar gan fod llawer o bethau wedi ein gadael allan. Mae gwneud y gwaith yma'n rhoi hwyl i lawer o bobl ac fe saif am lawer o flynyddoedd fel coff芒d i gymuned Llanilar yn y mileniwm newydd.
Ar y 17eg o Ebrill cafwyd cyfarfod i ddathlu gorffen y brithwaith. Daeth Pod Claire yr arlunydd a Monica Mahoney, Swyddog Cynllun Gwobrau Chi a'r Gymuned, ynghyd 芒 nifer o bobl yr ardal a oedd yn perthyn i wahanol gymdeithasau a gymerodd rhan. Cafwyd ychydig eiriau gan y ddwy uchod yn llongyfarch y gymuned am y gwaith roeddent wedi ei gyflawni.
Hefyd bu Shirley Ferguson a Marilyn Coleman yn siarad ar ran y chwe gwraig oedd wedi gwneud y prosiect yn bosibl. Cafwyd ychydig o eiriau gan Mr Mike Francis, cadeirydd pwyllgor y neuadd. Cyflwynwyd blodau i Pod Clare gan Lucy Shaw.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |