Mae sawl Swyddfa Bost yn ardal Y Ddolen wedi cau ac mae eraill mewn perygl o gau. Mae yna rai sydd ond yn agor am ychydig oriau yr wythnos. Mae yna fygythiad i gau miloedd o Swyddfeydd y Post ym Mhrydain. Hyd yma mae llythyron yn cael eu dosbarthu i ddrws pob t欧 a ffarm. Cyn bo hir mae'n debygol y bydd rhaid wrth flwch post ar ben l么n pob ffarm - fel sy'n digwydd yn America. Sylwn fod bocs coch postio ger Castle Hill wedi ei baentio yn ddu ac wedi ei gau. Diau iddo gael ei osod yno pan oedd St芒d y teulu Loxdale yn ei gogoniant cyn dyddiau ff么n ymhob t欧. Mae'r bocs ar dro peryglus i gerbydau i aros yna a heb le i droi rownd. Go brin bod neb yn cerdded lawr o gyfeiriad Rhos y garth i bostio erbyn hyn. Er yr holl achwyn ar gwtogiadau ac ar bris gwasanaethau y Post, go brin y gellir beio am gau y bocs hwn gan fod yna Swyddfa Bost yn y pentref o fewn chwarter milltir. Yn wir efallai y gall ei gau, arbed damwain mewn cyfnod pan fo cyflymdra ceir yn cynyddu ac amynedd gyrwyr yn prinhau!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |