大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Phyllis a Meredydd Evans Priodas ddiemwnt Phyllis a Mer锚d
Mehefin 2008
Cerdd gan Blodwen Griffiths ar achlysur priodas ddiemwnt Meredydd a Phyllis Evans.

I Phyllis a Mered ar achlysur eu priodas ddiemwnt

Llongyfarchion ddaw o'r galon, trigain mlynedd llon eu byd,
Dau'n byrlymu o gerddoriaeth, aelwyd Afallon yn gyd-g芒n o hyd;
`R么1 magwraeth yn Nhanygrisiau, aeth Mer锚d i Harlech yn diwtor bach ffel,
Sylwodd rhyw noson o gong! ei lygad ar ferch oedd 'da'r opera - bois bach roedd hi'n ddel.

Roedd hon yn gantores, nid oedd dim amheuaeth
A Mer锚d aeth i'w chwarfod cyn diwedd yr hwyr,
Fe gwympodd mewn cariad o'i ben lawr i'w sawdl,
A'r Americanes hithau wedi dotio yn llwyr;
Nid oedd angen petruso, roedd yn rhaid iddo fentro.
A gofyn a wnaeth am ei llaw `there and then',
A hithau atebodd `If you don't mind my language,
I'm willing to risk it whatever the trend'.

Ac yn wir, ymhen blwyddyn daeth Luned i'r adwy
Yn bleser o'r mwyaf, canwyll llygad y ddau,
A Mer锚d wrth ei fodd yn newid cewynnau
Tra bu Phyllis yn canu - pencampwraig ddi-fai;
Ymhen rhai blynyddoedd aeth y teulu yn gyfan
I wlad teulu Phyllis - America faith -
Ond buan daeth hiraeth ar y g诺r o Dangrisiau
Am Gymru a'i gwerin, ei chaneuon a'i hiaith.

Felly, dychwel i Fangor i swydd oedd yn plesio,
A Phyllis a Luned yn dysgu'r hen iaith:
Cawsom f么r o fwynhad drwy gyfrwng y radio
Gyda'r beic peni-ffardding a'r triawd ar daith;
Bu Mer锚d yn garedig i sawl person ifanc
A'u rhoi ar y ffordd i gael swyddi o fri
Ac fe glywn ar y radio bob dydd, hen ddisgyblion
Yn diolch iddo fo am gynghorion di-ri'.

`R么l treulio blynyddoedd yin mhrifddinas Cymru
Meddyliodd y ddau am ymadael 芒'r dre,
Cwympasant mewn cariad 芒 harddwch Cwmystwyth
A ninnau yn falch o'u croesawu i'r lle,
Ond nid ar ymddeol roedd meddwl y ddeuddyn,
Mae'r ddau wrthi'n brysur ar doriad y wawr -
Mae Phyllis mewn stydi'n y llofft 'da'r compiwtar
A'r doctor mewn llyfrgell wrth ei fodd, ar y llawr.

Daw atgofion melys heddiw, Fe ddaw rhai atgofion trist,
Ewch ymlaen am gyfnod eto
Gyda ffydd yn lesu Grist.

Ysgrifenwyd y gerdd gan Blodwen Griffiths, Sgubor Fach


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy