"Yn gynnar yn 2004 derbyniais wahoddiad gan Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig rhanbarth New South Wales yn Awstralia i feirniadu dosbarthiadau Adrannau Cymreig yn eu sioe yn Sydney Hydref 2004.
Hedfan allan o Heathrow, ar ddydd Mercher y 13eg o Hydref, cyrraedd Tokyo, Japan tair-arddeg o oriau yn ddiweddarach, sefyll yno am adeg ac yna cyrraedd Sydney fore dydd Gwener ar 么l siwrnai o 11eg awr.
Bu'n rhaid cymeryd ychydig o seibiant ar 么l cyrraedd gan fod y sioe fore trannoeth, y beirniadu yn dechrau am 8 bore Sadwrn. Cynhaliwyd y Sioe ar faes equestrian y gemau Olympaidd, safle gwych o safon uchel iawn.
Cychwyn beirniadu gyda adran y Merlod Mynydd, syndod o weld safon uchel yr adran yma, a rhifau i fyny i ryw 30 ym mhob dosbarth. Credaf yn wir byddai mwy na hanner y merlod yn dal eu tir yn Sioe Frenhinol Cymru. Y mae'r un peth yn wir am yr adran B a C.
Mae peth ffordd i fynd cyn cyrraedd yr un safon yn yr Adran y Cobyn Cymreig, ond mae'r diddordeb yn gryf ac yn datblygu ar y llwybrau cywir. Erbyn wyth o'r gloch yn nos daeth barnu'r adrannau Cymreig i ben pan gipiodd y march Mynydd Osbrey Tallyho y bencampwriaeth. Diwedd arbennig i ddiwrnod bythgofiadwy
Cafwyd penwythnos pleserus yn Sydney yn dilyn y sioe, cwrdd a llu o bobl newydd a'r un diddordeb. Profodd y pythefnos nesaf yn brofiad heb ei ail wrth ymweld a theithio i ardaloedd arfordir dwyrain Awstralia. Y dydd Llun canlynol aethom ar daith i'r Blue Mountains, diwrnod oer, cymylog a niwlog sy'n anarferol iawn yn Awstralia. Ond cyn gadael roeddwn i brofi tymheredd o 32c.
Wrth deithio a cherdded o amgylch Sydney - daeth y t欧 Opera, y Bont enwog a thraeth Bondi i'n cwrdd, a'r cwbl o fewn awyrgylch arbennig. Roedd cael pryd o fwyd gyda'r nos ym mwyty Doyles', ac edrych allan ar yr harbwr a'r t欧 opera, yn olygfa fydd yn sefyll yn y cof.
Hedfan i Brisbane yn yr ail wythnos a sefyll gyda ffrindiau wrth ymyl Toowmba, dinas fwyaf mewndirol Awstralia, hefyd ymweld a'r ysgol lle y derbyniodd Geraint Jones y cricedwr Cymreig ei addysg. Yma yn rhanbarth Queensland daethom yn agosach i'r diwydiant amaeth, yr un stori yn Awstralia ag yma yng Nghymru, gwasgfa ar brisiau a phobl ifainc yn cael eu gorfodi i adael y diwydiant oherwydd yr amgylchiadau.
Cawsom ymweld a fferm grawnfwyd o 2000 o aceri, yn cael ei ffermio gan ddau frawd, llynnoedd dir o 50 acer ar gyfer dyfrhau y tir a hanner y d诺r yn cael ei anweddu gan wres yr haul. Ond wedi dweud hyn mae'r tir o safon uchel, er bod prinder y d诺r yn amlwg iawn.
Wrth deithio o amgylch roedd yn wahanol iawn i ardaloedd Cymru, ychydig iawn o laswellt gwyrdd a llai fyth o anifeiliaid i weld ar y tir. Mae'r ffermwyr yn magu y gwartheg cig i unrhyw oed i'w gwerthu fel gwartheg st么r i gael eu tewhau mewn canolfannau, bum yn ymweld ag un canolfan a oedd yn tewhau tua tri deg mil o wartheg!
Roedd y ffermwr ar y fferm laeth y buom arni newydd symud o Kilcoy wrth ochr y m么r lle oedd Tics yn poeni eu wartheg. Roedd ei ardal newydd yn llawer mwy sych ac oedd yn cael tipyn o drafferth i addasu i'r amgylchedd. Tri chant a hanner o wartheg godro a heb silwair na phorfa ac yn disgwyl yn eiddgar am law! Costiodd y parlwr godro newydd $150,000, ac mae pris y llaeth yn ddigon tebyg i'r hyn y cawn ni yma ym Mhrydain.
Pe bawn yn dymuno ffermio yn Awstralia, credaf mai'r cam cyntaf a'r doethaf byddai dod i adnabod y diwydiant a chael profiad ohono. Mae'r tirwedd, y tywydd a phob dim sy'n ymwneud a'r ynys enfawr ar raddfa gymaint yn fwy na'r hyn sy'n arferol i ni.
Nid wyf yn synnu fod cymaint o bobl ifainc am ymweld a theithio Awstralia, mae yno ddigon o le, rhyddid a chyfle i ddatblygu cymeriad yn ogystal 芒 dawn bersonol os gellir derbyn y gwahanol batrwm o fyw, mae y wlad a'i phobl yn gyfeillgar tu hwnt. Ar ol derbyn y newid mewn patrwm o fyw ni chredaf y byddai'n anodd nac yn broblem i lwyddo yno.
O'r profid saif Sydney, Toowmba, mor glas arfordir y dwyrain ac absenoldeb caeau gwyrdd yn amlwg yn y cof, ond er yr holl a welsom ni a'r profiadau, y siwrnai o Gymru i Awstralia oedd fwyaf syfrdanol."