Ni ddaeth y dryw yn 么l a thrist oedd clywed fod naw deg pump y cant o'r adar bach yma wedi trengi yn oerfel y gaeaf eleni; a niferoedd y Glas y Dorlan a'r Crychydd Cam wedi dioddef yn enbyd oherwydd fod y rhew wedi cloi wyneb y dwr mor hir a'u rhwystro i bysgota yn 么l eu harfer.
Nid oes arwydd o'r Milfyw chwaith and diolch i'r `cnau defaid' a'r gwair mae'r milod yn fyw yn y caeau llwm tra'r bryniau unwaith eto dan eu cwrlid gwyn a Morus y gwynt yn chwipio'n ddidrugaredd dros fryn a dol.
Rhyfeddod yw fod y broga wedi cael blwyddyn cystal and wrth gwrs nid oes raid i hwn gasglu tanwydd di-baid i gynnal ei gorff ar dymheredd cyson. Bydd cyflymder ei systemau mewnol yn dilyn yr hinsawdd a prin yw'r angen am fwyd pan fydd popeth mewn ger isel ar dywydd oer.
Pydrodd yr wyau cyntaf yn y pwll fel yr ofnais, wedi eu rhewi'n garn ond erbyn hyn mae pentyrrau o jell brogaod yno - y mwyaf welais i erioed. ha dechrau mis Mawrth dechreuodd y brogaod gasglu wrth y fan ble'r oedd dwr croyw yn dod i'r pwll ac wedi hynny roedd dodwyed newydd bob dydd am tua pythefnos.
Colli cownt o'r diwedd a cholli cownt un bore ar of cyfri tua ugain o bennau brogaod yn bobian fel cyrc ar wyneb y dwr! Canodd y gerddorfa hefyd un bore yn y tywyllwch and gynted torrodd y wawr dyma'r symffoni yn darfod.
Dychwelodd Madfall-y-dwr adref hefyd i fagu ac mae degau ohonyn nhw nawr yn gwledda ar jeli maethlon y brogaod druain. Ar yr olwg gyntaf mae nhw yn dywyll a di-liw and wrth iddyn nhw ddianc yn sydyn mae nhw'n dangos eu boliau lliwgar a smotiog ar gefndir o wyrdd olewydd hardd.
Rai blynyddoedd yn 么l ymddangosodd rhyw "Amphibious craft" ar lan m么r Aberystwyth - cerbyd oedd yn gallu symud ar dir a mor, fel rhai o'r awyrennau bach sy'n gallu glanio ar for neu lyn.
Yr un ystyr sydd i enw'r creaduriaid yma. Amffibia yw'r brogaod, madfallod-y 卢d诺r ac hefyd llyffantod.
Mae nhw i gyd yn treulio rhan o'u bywyd ar dir sych and yn gorfod cael dwr i ddodwy eu hwyau. Unwaith erioed welais i wyau Ilyffant, mewn jell fel rhai'r broga and ar ffurf Ilinyn hir a smotiau duon wedi ei lapio am goesgyn planhigyn yn y d诺r.
Prinhau ar y cyfan yw hanes yr Amffibia. Diflannodd llawer o'u cynefinoedd dan dir wedi ei sychu ac adeiladau newydd.
Anodd i greadur sy'n dod n么l i fagu yn ei hen gartref bob blwyddyn w darganfod fod ei gartref wedi diflannu! Un o atgofion blynyddol ein plentyndod yn Pantmawr wrth gerdded 么l a blaen i'r ysgol, oedd y miloedd o frogaod bach duon yn dringo o'r llyn, i fyny tuag at y coed ar draws y ffordd.
Roedd cymaint yno fel nad oedd yn bosib rhoi troed ar lawr heb ddamsgen ar rai ohonyn nhw. Ond ymlaen a nhw, fel milwyr ar gyrch di-droi'n-ol nes cyrraedd y nod yn niogelwch y dail ar lawr y goedlan. Rhyfeddod prin a gwerthfawr dros ben.