大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd (llun 大象传媒 Cymru) Dysgu am hen arferion
Chwefror 2008
Merched y Wawr Llanfarian yn dysgu am hen arferion y flwyddyn newydd.

Yng nghyfarfod cyntaf 2008 ar 9 Ionawr croesawyd pawb yn gynnes gyda'r dymuniadau gorau gan ein Llywydd. Ymdriniwyd 芒 nifer o faterion gweinyddol a phleser fu croesawi wedyn ein gwestai sef Lyn Lewis Dafis atom i s么n am 'Ddathlu'r Flwyddyn Newydd'.

Mae Lyn yn enedigol o Fynachlogddu ac yn Swyddog Metadata yn y Llyfrgell Genedlaethol. Treuliwyd orig addysgiadol yn ei gwmni yn s么n am Y Calendr, Y Gwyliau a'r Dyddiau pwysig o fewn Blwyddyn. Eglurodd inni amryw o'r traddodiadau yn ymwneud 芒'r Flwyddyn Newydd - cychwyniad y Calendr gan Julius Caesar, y Gwyliau chwarterol fel G诺yl Ifan a G诺yl Fihangel; y traddodiadau o facsu cwrw a hela calennig; Y Fari Lwyd a Hela'r Dryw. Olrheiniodd Lyn darddiad yr arferion hyn i gyd. Yr oedd yr oll o'r uchod, meddai yn gysylltiedig 芒 chymuned gyfan ac roedd y weithred o fynd o ddrws i ddrws mor bwysig. Roedd dydd Calan yn ddydd o roi rhoddion ac o esgusodi dyledion.

Soniodd am yr arfer o `wassailing' - sef mynd o gwmpas i gael bwyd ac yfed o lestr arbennig gyda 12 trontol iddo - un am bob dydd G诺yl Dolig.

Beth oedd D诺r y Flwyddyn Newydd? - bechgyn yn mynd at ffynnon gyda darn o bren celyn, codi d诺r, dipio'r celyn a'i daenu ar wyneb neu ddwylo ac wedyn gofyn am geiniog. Roedd yr arfer o Hela'r Dryw ychydig yn frawychus - cario dryw ar elor wedi ei addurno 芒 rhubanau - y ddefod yn arwain g诺r ifanc at ei gariad! A'r Fari Lwyd - hen benglog ceffyl gyda shiten wen yn crwydro'r wlad yn canu. Dim chwarae oedd yr uchod ond ffordd o fyw!

  • Mwy am Y Fari Lwyd
  • Arferion y Nadolig a'r Calan

    Talwyd y diolchiadau gan Margaret Morgan a pharatowyd y te gan Anne, Eirwen a Eirlys Davies. Yn y gystadleuaeth am hen g芒n yn gofyn am galennig neu hen arferion bore Calan yr enillwyr oedd Nesta, Margaret Griffiths, Joyce a Brenda. Enillwyd gwobrau raffl gan Gwladys, Margaret Morgan a Falmair.

    Ar nos Fercher, 23 Ionawr pleser fu cael cwmni Hefin Jones, Llanbadarn i lywio Gyrfa Chwilen. Er mai braidd yn gyfyng oedd y gofod prif elfen y g锚m hwyliog yw CYFLYMDRA a LWC wrth gwrs! Pleser hefyd fu cael cwmni ein Swyddog Datblygu, Elisabeth Evans a hi lwyddodd i gael y sg么么r uchaf ar ddiwedd y noson. Mair Jones oedd 芒'r sgor isaf. Bu Hefin yn garedig iawn yn cyflwyno gwobrau i'r merched hefyd. Diolchwyd am noson o hwyl gan Joyce a mwynhawyd cwpanaid wedi ei pharatoi gan Hilda, Marian a Mary. Y gystadleuaeth oedd 'Copi o'ch hoff adroddiad digri' a'r enillwyr oedd Mary Parry a Mair Griffiths. Roedd y tocynnau raffl lwcus gan Iona, Nesta, Falmair, Mair Jones a Eirlys Davies.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy