大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Everest Ar ben y byd
Mai 2007
Wedi dros flwyddyn o baratoi ac edrych ymlaen, mae'n anodd credu bod y daith gerdded i Base Camp Everest drosodd. Gan Meleri MacDonald.

Ar 么l yr holl gynnwrf wrth godi arian ar ran elusen gofal canser Macmillan, sicrhau bod gen i'r offer angenrheidiol, a dilyn amserlen ymarfer corff, cyrhaeddodd yr uchafbwynt mewn 17 diwrnod anhygoel yn Nepal. Er i fi fwynhau, mewn un ffordd, mae'n ryddhad bod y cyfan drosodd, oherwydd er gwaethaf fy hyder cyn mynd, roedd llais bach yng nghefn fy meddwl yn holi beth fyddai'n digwydd pe na bawn yn cyrraedd pen y daith am ryw reswm neu'i gilydd. Bellach dwi'n medru dweud - bu'n daith llwyddiannus, a 'dwi wedi bod yna!

Roedd 26 ohonom ar y daith, 25 yn codi arian, ac un arweinydd. Ond wrth ddechrau ar ein taith ym mhentref Lukla, chwyddodd ein niferoedd wrth i'r t卯m o sherpas, porters, yaks a'u gyrwyr ymuno 芒 ni. Roedd angen t卯m o 30 i ofalu am y 26 ohonom! Teithiau cerdded yw prif ddiwydiant yr ardal, ac roedd y trigolion yn dibynnu ar y cyflog a dderbynient am ofalu amdanom ni i gynnal eu teuluoedd. Cerdded yw'r unig ffordd i fynd o le i le yn yr ardal hon - nid oes heolydd na cheir yno o gwbl, felly'r yaks a'r porters sy'n cario popeth sydd ei angen o bentref i bentref.

Er bod bywyd yn go galed i drigolion yr Himalayas, roedd y bobl i'w gweld yn siriol lawn. Un o'r atgofion fydd gen i am byth yw caredigrwydd a hynawsedd y sherpas, bobl weithgar, gyfeillgar a hynod o gryf. Nhw oedd yn ein deffro yn y bore, yn ein tywys ar hyd y llwybrau mynyddig, yn ein bwydo ac yn codi'r gwersyll ar ddiwedd bob prynhawn. Nhw oedd y cyntaf i godi yn y bore, a'r olaf i'w gwely yn y nos, heb air o gwyn, bob amser yn siriol.

Meleri MacDonaldDechreuasom gerdded ddydd Sul, gan anelu at gyrraedd y gwersyll wrth droed Everest y Sul canlynol, sef Sul y Pasg. Roedd y diwrnodau cyntaf yn bleserus iawn, wrth i ni gerdded drwy ardaloedd gwyrdd, ger yr afon Dudh Khosi (Afon Llaeth).

Er bod y llwybr yn serth iawn ar adegau, roedd yn ardal hardd, ac roeddem yn pasio drwy nifer o bentrefi bach, gan gynhyrfu'r plant bach oedd yn chwarae ar ochr y llwybr. Byddai'r plantos wrth eu bodd yn cael tynnu eu lluniau, yn arbennig gan fod modd iddynt weld eu lluniau ar sgrin fach ein camer芒u digidol, gan arwain at fonllefau o chwerthin a ribidires o eiriau Nepaleg!

Un o'r pentrefi mwyaf anhygoel i fi ei weld erioed oedd Namche Bazaar, sy'n cael ei adnabod fel prifddinas y sherpas. Arhosom yno am ddwy noson, er mwyn dod i arfer 芒'r uchder (gan ein bod bellach tua 3,500 0 fetrau yn uwch na lefel y m么r). Mae'r pentref lliwgar wedi ei adeiladu yn uchel ar ochr y bryn, a'r holl nwyddau sydd eu hangen ar y trigolion (ac eithrio'r hyn yr oedd modd ei dyfu yn lleol) yn cael eu cludo ar droed o Lukla.

Wrth ddringo allan o Namche Bazaar gwel卢som Everest am y tro cyntaf - ac roedd hynny'n deimlad afreal. Roeddem i gyd yn adnabod y mynydd enwog wrth gwrs, wedi gweld cannoedd o luniau ohono dros y blynyddoedd, a dyma ni'n ei weld am y tro cyntaf gyda'n llygaid ein hunain! Bu'n foment emosiynol i sawl un o'r criw.

Wrth ddringo'n uwch, cawsom gyfle i ymweld 芒 mynachlog Bwdhaidd Tyangboche. Dyma adeilad wedi'i addurno'n helaeth ac yn lliwgar. Yn anffodus cyraeddasom yn rhy hwyr i weld y mynachod yn gwedd茂o, ond cawsom grwydro o amgylch y fynachlog, a bendithiwyd sgarff arbennig i mi gan y mynach oedd yno ar y pryd.

Dydd Sul y Pasg, daeth rhan anoddaf y daith gerdded, sef cerdded dros rewlif i gyrraedd at Base Camp. Erbyn hyn roedd yr uchder yn effeithio arnom i gyd. A ninnau wedi cyrraedd 5,357 o fetrau yn uwch na lefel y m么r, mae 50% yn llai o ocsigen yno nag a geir yn Aberystwyth - felly mae fel cerdded gan ddefnyddio un ysgyfaint yn unig. Roedd rhai yn s芒l, rhai yn fyr eu hanadl, rhai 芒 chur pen difrifol. Yn ffodus, yr unig effaith arna i oedd teimlad penysgafn, a'm coesau'n teimlo'n aruthrol o drwm! Erbyn hyn roedd yn anodd iawn rhoi un troed o flaen y llall.

Tua 2.15, cyraeddasom Base Camp o'r diwedd. Lle caregog, rhewllyd, gwasgaredig yw Base Camp. Mae'n llawn pebyll o liwiau gwahanol, gan gynnwys pabell fawr, feddygol. O'n blaenau roedd y `Khumbu ice fall', sef y llwybr i'r dringwyr sy'n anelu at frig Everest, ond doedd gennym ni DDIM awydd mynd yn uwch!

Roedd y daith yn 么l i Lukla dipyn yn haws, a phedwar diwrnod yn ddiweddarach, roeddem ar ein ffordd yn 么l i Kathmandu, a oedd yng nghanol eu dathliadau i groesawu'r flwyddyn newydd 2064!

Rwy'n parhau i gasglu arian tuag at Macmillan am ychydig amser eto. Bu bobl Ceredigion a thu hwnt yn hael lawn, gan gynnwys nifer fawr o ddarllenwyr Y Ddolen. Mae'r cyfanswm erbyn hyn yn 拢6,983.91, ac yn dal i godi! Diolch o galon i bawb am bob cefnogaeth, fe'i werthfawrogir yn fawr iawn.

Meleri MacDonald


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy