大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Treialon c诺n defaid Trafod c诺n defaid
Chwefror 2009
Hanes anerchiad Martha Morgan o Dregaron i aelodau Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion.

"Braint a mwyniant oedd cael gwrando ar Martha Morgan, Tregaron yn s么n am oes o drin a thrafod c诺n defaid, ychydig o wragedd sydd wedi datblygu'r ddawn ym myd y Treialon. Erbyn heddiw credir fod mwy yn dangos diddordeb ac yn llwyddo i gyrraedd y brig.

Yn ystod y noson cawsom ddarlun cynhwysfawr o'i bywyd fel merch y wlad, ac fel y bu iddi ddatblygu ei diddordeb i fagu ac i ddysgu c诺n defaid.

Teg yw dweud ei bod bron yn ferch y filltir sgw芒r. Diffwys, Cwm Berwyn a Throedrhiwlas ger Tregaron.

Erbyn heddiw mae'r terfynau wedi ymestyn gryn dipyn, gan ei bod wedi teithio hyd a lled Cymru a thu hwnt yn ymwneud a threialon c诺n defaid.

"Gwyddom", meddai "fod bywyd a gwaith gwraig y t欧 erbyn heddiw wedi newid. llawer ers dyddiau fy mham. Does yr un wraig heddiw yn codi mawn, godro a llaw, cneifio defaid efo gwellau, crafu a throi gwair 芒 rhaca bach".

N么l yn y flwyddyn 1985 dim and 2 neu 3 menyw oedd yn cystadlu efo c诺n. Ambell ddyn bryd hynny yn dymuno iddynt fynd n么l adref at y sinc.

Bugail oedd ei thad ai thad-cu. Felly cafodd hithau ei meithrin o'r crud yn s诺n defaid a ch诺n. Gorchwyl cyntaf ar 么l oriau ysgol oedd cerdded a bwydo'r c诺n, neu fynd a Juno i gwrsio defaid gwlad allan o dir Diffwys.

Mewn amser cymerodd ddiddordeb i ddysgu ci ifanc i drafod ieir, defaid, neu wyn swci. Yna mentro i dreialon Nant-yr卢hwch a Maesglas. Cofio hefyd cael y fraint i fynd i dreialon yn Rhaeadr. Pryd hynny taith bell, heddiw mae yn agos.

Gydag amser, priodi, gwneud cartref a magu teulu. Dechrau o'r newydd mewn tyddyn, eto ger Tregaron. Saith acer, dwy fuwch a saith o ddefaid. Un o'r plant yn cael anffawd efo un o g诺n y teulu. Ond daeth amser a meddyginiaethau i'r digwyddiad anffortunus. Penderfynu cael ci arall, a dewis ast o'r enw Gel, honno yn dod a hyder newydd iddynt fel teulu. Pawb yn dod dros eu hofnau. Mewn amser daeth y dydd i fynd i dreialon c诺n defaid.

Dechrau yn Nhregaron mewn treialon proffesiynol yn lle rhai amatur. Diwrnod i'w anghofio oedd barn Martha am y profiad. Ond bu perswad y teulu yn gyfrwng i ddal ati a mentro I'r Bont, lle'r oedd y cae yn llai. Cael gwell hwyl ac ychydig o ganmoliaeth.

Ymlaen wedyn I Dreialon Meithrin, er mwyn cael mwy o brofiad, hynny yn arwain i lwyddiant. Ennill cwpan Man and Dog yn Llangeitho. Pethau yn dechrau gwella erbyn Haf 1987. Mynd i dreialon dau ddiwrnod yn Newbridge, dod adref wedi ennill gwellaif am ei hymdrechion.

Erbyn hyn roedd pobol yn dangos diddordeb yn ei ch诺n ac am gael c诺n bach oddi wrth Gel. Dysgu'r c诺n sydd yn rhoddi mwyaf o bleser i Martha. Mae ei g诺r. Glyn hefyd yn dangos diddordeb. Ef sydd yn dysgu'r c诺n i gerdded efo rheolaeth ac ufudd-dod. Mae pob ci yn wahanol. Rhaid iddynt gael eu trafod felly.

Cymer bymtheg mis neu ragor i bethau ddechrau siapo. Nid bach o beth yw mynd a chi am y tro cyntaf. I'r Sioe fawr yn Llanelwedd. Onid yw popeth a phawb yn ddieithr iddo.

Mae gan bob ci ei gryfder ai wendidau, gwaith bugail yw cyfarwyddo a gwella'r diffygion. Rhaid i gi gael clust dda, nid rhwydd yw clywed o bell ac yn erbyn y gwynt, ac ar fynydd agored neu mewn sioe fawr amaethyddol. Rhaid iddo beidio 芒 stopio pan fydd of eisiau, dim and pan fydd yn cael y gorchymyn iawn. Pleser yw cael ci sydd yn didoli ac sydd yn dal llygad dafad. Rhaid cael ci sydd yn dangos parch ac yn gryf gan fod rhai defaid yn bur ystyfnig ac yn benstiff.

Gwyddom erbyn hyn fod Martha wedi cael cryn lwyddiant ym myd treialon ac wedi mynychu treialon y byd. Wedi cwrdd a nifer fawr o bobl ac wedi gwneud ffrindiau di-rif. Torri tir newydd ym myd treialon c诺n defaid ac mewn byd a fu unwaith yn fyd dynion yn unig.

Dafydd Jenkins, Penpompren oedd yn y gadair a John Jones, Pantcynghorion fu yn talu'r diolchiadau. Nodiadau Anti Sarah, gan y Parch. Stephen Morgan, Trefilan fydd dan sylw yn ein cyfarfod ar y 25 Chwefror 2009. Croeso cynnes."

Erthygl gan Edgar Morgan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy