大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Norma ac Idris Shanti Sewa Griva
Chwefror 2004
Mewn gwasanaeth arbennig daeth aelodau eglwysi Capel-y-Wig, Pisgah a Phantycrugiau at eu gilydd i groesawu Idris a Norma Rees, Ffynnonlas.

Wedi canu cynulleidfaol, darlleniadau a gweddi croesawyd y gwahoddedigion ymlaen i gyflwyno hanes eu hymweliad 芒'r India a Nepal.

Norma Rees fu'n cyflwyno manylion am eu teithiau gydag Idris ei g诺r, yn dangos safleoedd yr ardaloedd, trefydd, dinasoedd, parciau natur cenedlaethol ac afonydd ar fap mawr. Llwyddodd Norma i gyfleu naws, lliw, diwylliant, bwydydd, crefydd a bywyd gwyllt y gwledydd trwy ei brwdfrydedd, ei hiaith afaelgar a' i hiwmor. Medrodd gyflwyno am naws cyfoeth a thlodi, palasau a chyflwr pobloedd y stryd, mynyddoedd a dyffrynnoedd a chredoau ac ofergoeliaeth dieithr sy'n dal i gael blaenoriaeth dros foddion, meddyginiaeth, cyffuriau a gwyddoniaeth. Mae bywyd cyfoes yr India yn llawn paradocs.

Gwelsant y Joy Mahal, angladdau yn llosgi cyrff ar lan y Ganges, teigrod, nadredd a chopaon gwenwisg yr Himalayas. Yr oedd yn gyflwyniad diddorol iawn ac ni ellir gwneud cyfiawnhad o'r wledd trwy adroddiad ar bapur. Er y tlodi ofnadwy, yr afiechydon a'r boblogaeth ddirifedi, erys urddas pobl yr India a phobl Nepal yn uchel yn eu cof.

D么i Norma ac Idris Rees o'r India a Nepal eisiau helpu pawb a phob achos. Nid yw hynny'n bosibl. Ond penderfynodd y ddau i gefnogi un ganolfan arbennig. Trosglwyddwyd y casgliad o'r cwrdd o 拢117 i'w ychwanegu at 拢125 a gasglwyd gan Norma ac Idris Rees trwy werthu cardiau Nadolig a chrefftwaith o Nepal ac India. Byddant yn cyflwyno'r swm terfynol i ganolfan Shanti Sewa Griva yn Nepal. Canolfan gymorth i rai yn dioddef o'r gwahanglwyf ydoedd ond bellach mae yna ysgol, clinig a hyd yn oed fferm gyfagos i dyfu llysiau a ffrwythau gyda' r bwriad o ' i gwneud yn hunan-gynhaliol.

Danfonwyd arian o'r Almaen i ddechrau'r ymgyrch. Nid oes arian yn dod o'r llywodraeth felly mae'r cyfraniadau allanol yn hollbwysig i gynnal y fenter. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth - wella byd rhai llai ffodus na nyni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy